Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mae Galar yn Brathu: Gobaith am y GwyliauSampl

Grief Bites: Hope for the Holidays

DYDD 4 O 5

Ydy llawenydd yn bosib yn ystod cyfnod y gwyliau...yn enwedig yn ystod cyfnod o alar dwys?

Mae llawenydd go iawn, yn bendant, yn bosib yn ystod galar!

Mae yna wahaniaeth rhwng hapusrwydd a gobaith llawn llawenydd.

Mae hapusrwydd yn gallu bod yn amodol ar emosiynau, amgylchiadau, a chredoau. Mae gobaith llawn llawenydd i’w gael drwy’r sylweddoli faint mae Duw’r Tad yn ein caru, ymlacio’n ei ddaioni, ymlacio yn ei heddwch perffaith, anogaeth gariadus, ac ymlacio.

Yr hyn yw, ydy sylweddoli bod gan Dduw gynllun ar gyfer dy dorcalon, yn ogystal â'th fywyd, a gwybod nad yw byth yn gwastraffu poen.

Yn y pen draw, yr hyn yw ydy, sylweddoli bod llawenydd y gwyliau i'w gael ynddo Ef yn unig!

Cyn y galar ro’n i’n meddwl fod gwyliau yn llawn llawenydd o ganlyniad i’r paratoi a chael y gwyliau “perffaith” gyda theulu a ffrindiau. Dim ond ar ôl y galar wnes i ddarganfod fod llawenydd pur y gwyliau dim ond i’w gael yn Nuw.
Duw yw’r disgrifiad gorau o’r gwyliau.

Nid diwrnod i ddiolch am rai sy’n annwyl i ni a bendithion y ddaear yw Diolchgarwch...Mae’n gyfle i ddangos gymaint yw ein diolch i Dduw sy’n ein caru a’n trysori ni! Dŷn ni’n ddiolchgar am y cyfan mae e’n ei wneud yn ein calonnau a’n bywydau, yn ddiolchgar am y trysor tragwyddol mae e’n ei feithrin yn ein heneidiau, a diolchgar fod gennym gyfeillgarwch go iawn, a hyfryd gydag e!

Mae sylweddoli fod Duw’n paratoi lle i ni yn nhragwyddoldeb, a bod ein hanwyliaid yn y nefoedd, ble mae yna drysor ystyrlon yn disgwyl amdanom, yn rheswm i ddiolch iddo.

Nid prif bwrpas y Nadolig yw treulio amser gydag anwyliaid, addurno’n tai, a chanu carolau, pobi, neu wylio hen ffefrynnau ar y teledu...Nadolig yn ei ystyr buraf yw am ein Gwaredwr adawodd ogoniant y Nefoedd (elli di gredu?) fel gallai ddod fel dyn i achub eneidiau...a chael perthynas agos unigryw gyda ni!

Mae’r ffaith ei fod wedi gadael gogoniant a gofal y nefoedd - y perffeithrwydd, llawenydd a chariad 24/7 angylion ato - er mwyn creu gwyliau arbennig y Nadolig fel ein bod ni’n gallu agosáu ato a chael cyfle ar gyfer perthynas glos ag e’n hollol benffrwydrol imi! Mae hyn yn fy annog i ffocysu ar stori go iawn y Nadolig, sy’n cynnig gobaith anhygoel! Mae e hefyd yn gwneud imi fod eisiau caru ac annog eraill fel y mae e’n fy ngharu a’m hannog i.

Am ei fod wedi rhoi gyda chariad i bob un ohonom ni, dw i’n trio cofio i roi gyda chariad i eraill yn ystod y gwyliau, hefyd, trwy gynnig i’m hanwyliaid o’m cwmpas roddion o gariad, anogaeth, atgofion melys, a gweithredoedd o gariad, i ddangos gymaint yw fy niolch i iddyn nhw.

Meddylia am sut elli di fuddsoddi’n dy deulu a ffrindiau yn ystod y tymor gwyliau hwn.

Bydd yn helpu i liniaru dy galon luddedig ac yn dy ganiatáu yn ei sgìl, i fendithio calon person arall.

Pan dw i’n meddwl am wir ystyr y Nadolig, mae'n fy ngalw i dreulio tymor y Nadolig yn ceisio calon Duw, yn dathlu'r llawenydd sydd ar gael trwyddo Ef, a bod yn fwy ymwybodol o bwy y gallaf rannu Ei gariad â nhw.

Falle na fydd yn lliniaru’r poen calon presennol yn gyfan gwbl, ond mae ganddo’r pŵer i lenwi pob crediniwr gyda llawenydd go iawn, wrth i ni sylweddoli'r aberthau anhygoel y mae Duw wedi'u gwneud dros ddynolryw...dim ond er mwyn iddo allu cael cyfeillgarwch diffuant, cariadus a gwir gyda ni!

Mae sylweddoli ar y llawenydd gwirioneddol ar gael, hyd yn oed yng nghanol caledi, yn rhodd na all dim ond Duw ei chreu yn ein calonnau.

Heddiw dŷn ni’n gofyn i Dduw roi i ti’r rhodd fendithiol o lawenydd a gofyn iddo wneud hyn yn real mewn profiad i ti drwy’r gwyliau cyfan.

Ystyria gofyn i Dduw pwy elli di eu bendithio’r tymor gwyliau hwn, hefyd, drwy dy gariad ac anogaeth.

Gweddi:
“Nefol Dad, diolch yn fawr am bopeth rwyt wedi’i wneud dros fy nheulu a fi - yn y gorffennol, presennol ac i’r dyfodol - a diolch am bopeth yn parhau i’w wneud drosom hefyd!

Llenwa’n calonnau os gweli’n dda gyda llawenydd goruwchnaturiol! Helpa ni i deimlo dy lawenydd yn disgleirio’n ein calonnau’r tymor gwyliau hwn. Gwna dy bresenoldeb yn amlwg, yn ogystal â dy gariad, anogaeth a chysur! Dw i’n dy ganmol ein bod yn gallu profi llawenydd duwiol, er bod cymaint yn profi poen calon aruthrol. Pryd bynnag dŷn ni’n teimlo’n isel neu’n digalonni’r tymor gwyliau hwn, llenwa ein calonnau gyda’th gariad a’th bresenoldeb! Llenwa ni â GOBAITH newydd!

Helpa bob un ohonom ni, hefyd, i fod yn offeren anogaeth, cariad, llawenydd, a heddwch i bawb y byddi’n eu rhoi ar draws ein llwybr.

Dŷn ni’n dy garu di, Arglwydd! Yn enw Iesu, Amen!

Mae’r defosiwn hwn © 2015 gan Kim Niles/Grief Bites. Cedwir pob hawl. Defnyddir gyda chaniatâd.

Am y Cynllun hwn

Grief Bites: Hope for the Holidays

I lawer, mae gwyliau yn amser o lawenydd mawr... ond beth sy’n digwydd pan mae’r gwyliau’n colli eu sglein ac yn troi’n heriol o ganlyniad i alar neu golled? Bydd y cynllun darllen arbennig hen yn helpu’r rheiny sy’n mynd drwy gyfnod o alar i ddod o hyd i gysur a gobaith ar gyfer y gwyliau, ac yn rhannu sut i greu cyfnod o wyliau ystyrlon er gwaethaf galar dwfn.

More

Hoffem ddiolch i Kim Niles, awdur "Getting Your Breath Back After Life Knocks It Out of You" am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.griefbites.com