Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mae Galar yn Brathu: Gobaith am y GwyliauSampl

Grief Bites: Hope for the Holidays

DYDD 2 O 5

Sut rwyt ti’n ffeindio a phrofi gobaith pan wyt ti’n gwbl wag o bob gobaith yn ystod y gwyliau?

Ar ôl mynd drwy’r profiad o farwolaeth fy chwaer ar Ddiolchgarwch a fy nghariad wedyn dros gyfnod y Nadolig, roedd colli fy nain ar benwythnos San Ffolant, colli nain arall ddeuddydd cyn y Nadolig, ac yna flynyddoedd yn ddiweddarach mynd drwy farwolaeth dyweddi fy chwaer arall adeg y Pasg, ddim yn fy llenwi â gobaith. Roedd y gwyliau o gwmpas cyfnod eu marwolaeth yn boenus iawn. Ges i dipyn o drafferth i ffeindio unrhyw obaith oherwydd y boen calon ddwys.

Pa un ai os wyt ti’n teimlo’n anobeithiol oherwydd marwolaeth rhywun annwyl, neu’n mynd trwy golled sy’n herio bywyd (fel ysgariad, gwrthdaro teuluol, salwch, anawsterau ariannol, colli swydd, neu ddigwyddiad torcalonnus arall), cofia fod Duw cariad Duw tuag atat yn ddwfn ac mae e’n poeni'n fawr amdanat ti.

Mae e wirioneddol yn deall beth rwyt yn mynd drwyddo ac eisiau cynnig iti ei gyffyrddiad iachusol.

Yn y pen draw mae Duw yn dymuno rhoi iti gawod o gariad gwefreiddiol a GOBAITH anhygoel!

Ond sut mae ffeindio ei obaith a’i brofi’n llawn?

Dechreua drwy ofyn i Dduw iachau dy galon...gofynna iddo dy drwytho gyda’r gobaith sy’n dod ganddo e’n unig...gofynna iddo dy drochi’n ei gariad anhygoel!
Gofynna i Dduw dy gario di trwy'r gwyliau yn benodol a gweinidogaethu'n ddwfn i'th galon!

Darllena ei air a gofyn iddo siarad yn rymus â’th galon wrth iddo gysuro’n dyner dy galon a’th ysbryd poenus.

Waeth beth rwyt ti'n mynd drwyddo, mae e'n poeni'n fawr am dy dorcalon, felly ceisia Dduw'r tymor gwyliau hwn, a bob amser, â'th holl galon!

Byddi’n dod o hyd i Dduw - a'i obaith newydd sbon - pan fyddi di'n chwilio amdano â'th holl galon! Mae trugareddau Duw yn newydd bob dydd felly gofynna iddo amdanyn nhw!

Mae e yma i ti a bydd e’n dy helpu trwy'r gwyliau!

Gweddi:
"Annwyl Iesu, diolch iti am dy obaith! Dw i’n gofyn iti’n benodol roi imi y rhodd da o obaith a chaniatáu imi ffeindio a phrofi dy obaith a’th heddwch i’r eithaf.

Dw i’n gofyn iti fendithio fy nghalon gyda’th gyffyrddiad iachusol a’m trochi yn ei gariad. O Dad, wnei di iachau fy nghalon os gweli di’n dda a’m cario drwy dymor y gwyliau. Dw i'n gweddïo y byddi'n siarad yn rymus â'm hysbryd wrth imi geisio dy galon (a'th arweiniad) wrth imi ddarllen dy Air. Caniatâ i mi Dy drugareddau gwerthfawr newydd bob bore a chysura fy enaid bob dydd. Diolch am fod yn Ffrind go iawn i mi! Rwy'n trysori ac yn caru dy gyfeillgarwch! Dw i'n dy garu di, Arglwydd!
Yn dy Enw gwerthfawr dw i’n gweddïo, Amen.”

Mae defosiwn hwn © 2015 gan Kim Niles/Grief Bites. Cedwir pob hawl. Defnyddir gyda chaniatâd.

Am y Cynllun hwn

Grief Bites: Hope for the Holidays

I lawer, mae gwyliau yn amser o lawenydd mawr... ond beth sy’n digwydd pan mae’r gwyliau’n colli eu sglein ac yn troi’n heriol o ganlyniad i alar neu golled? Bydd y cynllun darllen arbennig hen yn helpu’r rheiny sy’n mynd drwy gyfnod o alar i ddod o hyd i gysur a gobaith ar gyfer y gwyliau, ac yn rhannu sut i greu cyfnod o wyliau ystyrlon er gwaethaf galar dwfn.

More

Hoffem ddiolch i Kim Niles, awdur "Getting Your Breath Back After Life Knocks It Out of You" am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.griefbites.com