Mae Galar yn Brathu: Gobaith am y GwyliauSampl

Pan mae rhywun yn dioddef colled perthynas, o ganlyniad i farwolaeth anwylyd, ysgariad, neu wrthdaro teuluol, gall y gwyliau golli eu gobaith, llawenydd a sglein.
Un o'r cwestiynau caletaf a mwyaf torcalonnus a all fod gan alarwr yn ystod y cyfnod heriol hwn yw, "Sut alla i ddathlu'r gwyliau ond dal i gofio ac anrhydeddu fy anwyliaid gwerthfawr sydd bellach yn dathlu'r gwyliau yn y nefoedd gyda Duw?”
Cwestiwn arall sy'n peri gofid calon a allai fod gan rywun (sy'n mynd trwy farwolaeth anwylyd, ysgariad, neu wrthdaro teuluol) yw, "Sut mae byw trwy'r gwyliau pan dw i'n teimlo cymaint o dristwch, ac eisiau fy anwylyd gymaint?"
Mae'r gwyliau yn ofnadwy o galed i'r rhai sy'n ddwfn mewn galar oherwydd marwolaeth anwylyd, ysgariad, neu wrthdaro teuluol neu ddieithrio.
Mae galarwyr yn gweld eisiau eu hanwyliaid yn fawr, ac mae cymaint o atgofion yn perthyn i'r gwyliau; ond nawr efallai y bydd yr atgofion hyfryd hynny o wyliau'r gorffennol yn dod â thorcalon dwys.
Mae traddodiadau a oedd yn annwyl ar un adeg bellach yn brifo ac yn pigo oherwydd nad yw’r anwylyd yma bellach, neu nad yw bellach yn fodlon, i'w rhannu.
Dw i wedi ffeindio bod goroesi dyddiau anodd a thorcalon y gwyliau yn digwydd drwy ras Duw’n unig...gyda’i gariad dyddiol, help, ac anogaeth.
Gofynna i Dduw, nawr, i gysuro ac iachau dy galon, a gofynna iddo dy drwytho ag anogaeth wrth iti fyns drwy gyfnod y gwyliau...gam wrth gam...o ddydd i ddydd...eiliad wrth eiliad....o ddigwyddiad i ddigwyddiad. Mae wrth dy ymyl ac mae hyd yn oed yn fodlon dy gario.
Felly beth ddylai galarwr wneud â thraddodiadau?
Os wyt ti’n teimlo fel cadw at draddodiadau, gwna hynny ar bob cyfrif...a phaid teimlo euogrwydd am ganiatáu llawenydd i’th hun. Roedd yr un, neu rhai oedd yn annwyl iti, wrth eu bodd yn dy weld yn llawn llawenydd pan oedden nhw yma. Bydden nhw dal i fwynhau dy weld yn llawn llawenydd unwaith eto, hyd yn oed wrth iti brofi galar.
Os nad wyt ti'n teimlo'n barod i gadw at y traddodiadau arferol, anrhydedda dy alar trwy ganiatáu'r rhyddid i’th hun deimlo'r hyn sydd angen iti ei deimlo. Paid â theimlo'n euog am fod angen tymor gwyliau llawer mwy hamddenol a thyner.
Mae’r ddau’n ymatebion priodol i alar.
Paid â theimlo gorfodaeth i wneud na theimlo unrhyw beth, na chaniatáu i bwysau achosi iti wneud unrhyw beth nad yw'n anrhydeddu ble wyt ti’n dy broses o alar.
Falle y bydd rhai galarwyr am wneud traddodiad y bydden nhw’n mwynhau ei wneud â'u hanwyliaid fel ffordd o'u cofio a'u hanrhydeddu, tra gallai hynny fod yn rhy boenus i rai ar hyn o bryd.
Dos a siarad gyda’th anwyliaid sy’n weddill a rhanna’r hyn sydd ar dy galon ac esbonia sut wyt ti’n teimlo. Gofynna iddyn nhw am eu cariad a chefnogaeth yn ystod y cyfnod o wyliau.
Amgylchyna dy hun gyda lot o gefnogaeth!
Os oes eglwys gerllaw sy’n cynnig sesiynau cynghori ar alar, dw i’n wirioneddol dy annog i’w mynychu.
Mae amser a lle i bopeth, gan gynnwys chwilio am anogaeth a chefnogaeth, ac mae Duw’n ffyddlon drwy dy gario drwy bob tymor yn dy fywyd. Anrhydedda Duw a’th alar.
Caniatâ Dduw i’th dywys a’th arwain drwy dy alar a thorcalon a sut dylet ddelio â thraddodiadau yn ystod tymhorau dy fywyd.
Yn ystod y deuddydd nesaf byddaf yn cynnig syniadau ar, nid yn unig sut i fynd drwy’r gwyliau, ond hefyd cael heddwch a chreu cyfnodau ystyrlon yn ystod y gwyliau.
Gwahodda Dduw, y funud hon, i fod yn gyfaill gwerthfawr a chroesawgar yn ystod y gwyliau ac yn y dyddiau i ddod.
Gweddi:
"Annwyl Dad Nefol Mwyaf Graslon, dw i'n diolch i Ti nad oes raid i mi fynd trwy'r gwyliau ar ben fy hun. Dw i’n diolch o waelod calon i ti am fod yma bob amser i mi a charu fi, a byth fy anghofio. Abba, Dad, helpa fi bob dydd wrth imi deithio drwy fy ngalar a thorcalon. Helpa fi i gofio ac anrhydeddu fy anwyliaid yn gariadus, i ollwng gafael ar unrhyw beth sy'n dal fy nghalon yn gaeth, ac i weld yn glir dy ddaioni a'th fendithion trwy'r storm dw i'n ei phrofi mewn bywyd.
Dw i’n dy garu, Arglwydd, ac yn moli dy enw sanctaidd. Yn enw Iesu dw i’n gweddïo, Amen.”
Mae’r defosiwn hwn © 2015 gan Kim Niles/Grief Bites. Cedwir pob hawl. Defnyddir gyda chaniatâd.

Am y Cynllun hwn

I lawer, mae gwyliau yn amser o lawenydd mawr... ond beth sy’n digwydd pan mae’r gwyliau’n colli eu sglein ac yn troi’n heriol o ganlyniad i alar neu golled? Bydd y cynllun darllen arbennig hen yn helpu’r rheiny sy’n mynd drwy gyfnod o alar i ddod o hyd i gysur a gobaith ar gyfer y gwyliau, ac yn rhannu sut i greu cyfnod o wyliau ystyrlon er gwaethaf galar dwfn.
More
Hoffem ddiolch i Kim Niles, awdur "Getting Your Breath Back After Life Knocks It Out of You" am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.griefbites.com