Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Mae credu Duw yn beth da beth bynnag sy'n bodSampl

Believing God Is Good No Matter What

DYDD 5 O 5

Dydy Duw heb orffen.

Dydy Duw ddim yn farw a dydy e heb orffen! Falle fod dy fywyd yn edrych neu deimlo fel darlun anghyflawn - llanast llwyr gyda darnau ar goll.


Mae duw eisiau i ti wybod, er nad wyt yn ei weld, mae e'n dal i weithio. Mae e'n dal i wneud gwaith creadigol a gwych yn dy fywyd a bywyd y rhai rwyt yn ei caru. Er nad wyt yn gweld y darlun gorffenedig, dydy e ddim yn golygu nad yw'n mynd i fod yn gampwaith. Mae Philipiaid, pennod1, adnod 6 yn dweud wrthon ni i fod yn hyderus y bydd yr un ddechreuodd y gwaith yn ei orffen. Felly, bydd yn sicr: Mae Duw dal i weithio'n galed yn dy fywyd.


Gall neb, na dim, stopio ffafr Duw yn dy fywyd! Hyd yn oed os wyt yn teimlo fod y darlun yn lanast llwyr, gall Duw ddefnyddio'r llanast hwnnw i fendithio pobl yn dy fyd.


Mae mwy ar dy gyfer - mwy o ffafr, mwy o fendith, a mwy o bethau da!


Meddylia amdano fe: Sut mae gwybod fod gan Dduw waith anorffenedig yn dy fywyd yn rhoi gobaith i ti?


GWEDDÏA: Diolch Dduw am ddechrau gwaith da ynof fi ac addo i'w gwblhau. Mae dy ffafr yn llifo'n fy mywyd a gweddïaf y byddi di'n fy helpu i adnabod pan mae'n llifo drwy fy mywyd i helpu eraill. Rho gyfle i mi yr wythnos hon i annog rhywun ar eu taith. Yn enw Iesu. Amen.


Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Believing God Is Good No Matter What

Mae yna rai negeseuon heddiw, tu allan a thu mewn i'r eglwys, sydd wedi llygru gwir neges ffafr Duw. Y gwir ydy does dim rheidrwydd ar Dduw i ddarparu pethau da ar ein gyfer - ond dyna mae e ei eisiau! Gall y pum niwrnod...

More

Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah Publishing Group am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.goodthingsbook.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd