Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Mae credu Duw yn beth da beth bynnag sy'n bodSampl

Believing God Is Good No Matter What

DYDD 3 O 5

Dod yn Ddarganfyddwr Da

Mae chwilio am ddaioni Duw yn ddyddiol yn ein helpu i ddisgwyl pethau da i ymddangos yn ein bywydau. Dydy daioni Duw ddim yn cuddio, ac nid yn achlysurol y mae ei ffafr yn ymddangos... rhaid bod gynnon ni lygaid sy'n ceisio darganfod. Dŷn ni ddim mor ymwybodol ag y dylen ni fod o ffafr Duw, sy'n esbonio pam fod yr Apostol Paul wedi gweddïo y byddai'r cwbl yn dod yn olau i'w ffrindiau.


Sgwennodd Paul at yr eglwys yn Effesia a dweud wrthon nhw, "Dw i'n gweddïo y daw'r cwbl yn olau i chi." Dyma'r gwirionedd: mae ffafr yn ein hamgylchynu. Pan dw i'n chwilio am bethau da yn fy mywyd, dw i'n sylweddoli mod i'n dod ar eu traws ymhobman, hyd yn oed yn y llefydd mwyaf annisgwyl. Weithiau pan nad yw ffafr Duw yn amlwg, mae e'n gweithio ar ein rhan orau. Hyffordda dy hun i weld y daioni a sylwa ar y daioni yn amlygu ei hun lle bynnag wyt ti'n troi.


Gall ffafr Duw ei ddenu atat drwy dy agwedd a meddylfryd, a gall ei gadw oddi wrthyt am yr un rheswm. Mae ffafr yn ddiduedd o un person i'r llall, ond dyw hynny ddim yn golygu ei fod yn gydnaws ag agweddau a meddyliau pawb. Pan dŷn ni'n dewis bod yn ddarganfyddwr da, mae e'n cynyddu ffafr Duw yn ein bywydau.


Ystyria hyn: Sut elli di ddechrau ailhyfforddi dy feddwl i ganolbwyntio ar bethau da?


GWEDDÏA:Diolch i Dduw am roi'r gallu i mi ailhyfforddi fy meddwl er mwyn i mi allu gweld mwy o'r da sy'n rhan o fy mywyd. Rwyf am ddod yn ddarganfyddwr da fel y gallaf feddwl a disgwyl mwy o'th ffafr yn ddyddiol. Yn Enw Iesu. Amen.


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Believing God Is Good No Matter What

Mae yna rai negeseuon heddiw, tu allan a thu mewn i'r eglwys, sydd wedi llygru gwir neges ffafr Duw. Y gwir ydy does dim rheidrwydd ar Dduw i ddarparu pethau da ar ein gyfer - ond dyna mae e ei eisiau! Gall y pum niwrnod...

More

Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah Publishing Group am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.goodthingsbook.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd