Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Mae credu Duw yn beth da beth bynnag sy'n bodSampl

Believing God Is Good No Matter What

DYDD 1 O 5

"Nid oes dim sy'n dda ond Duw"



Mae yna rai pobl sy'n meddwl fod Duw yn ddig y rhan fwyaf o'r amser a bod ei ffafr yn para ond am ennyd, ond mae'r Beibl yn dweud mai fel arall y mae hi! Rwyt wastad yn gannwyll ei lygad hyd yn oed pan wyt ti'n teimlo fel ffrwyth sy'n pydru.



Mae Duw wedi symud yn ei flaen oddi wrth y weithred ddrwg wnes ti neu'r pethau cas ddwedaist ti. Efallai yn wir ei fod yn siomedig ar y pryd ond mae wedi symud yn ei flaen. Wyt ti wedi? Does dim rhaid i ti deimlo dy fod wedi colli ei ffafr oherwydd methiant.



Mae caredigrwydd Duw yn ddiddiwedd a byth yn dod i ben, Mae ei ffafr wastad o'n cwmpas, arnom ni, gyda ni: Mae ffafr Duw am byth!



I ddweud y gwir nid yw caredigrwydd yn bodoli ar wahân i Dduw: ddaeth e ddim i fod o'i ran ei hun - i'r naill ochr neu ar wahân i Dduw. Yn bendant, nid rhywbeth ddaeth i fod drwy'r ddynoliaeth (Oes rhaid i ti hyfforddi dy blant i fod yn ddrwg, neu dda?)



Duw yw ffynhonnell pob caredigrwydd a phopeth da. Mae rhai pobl dal i wahanu da oddi wrth Dduw, gan felly ddirywio angen y ddynoliaeth i ddiolch, ei anrhydeddu a'i addoli.



Pwrpas yr byddi'n dechrau gweld hwn yw dechrau'r daith tuag at weld y da nad wyt yn ei weld sut beth yw ei ffsafr yn dy fywyd bob dydd. Am y pum niwrnod nesaf byddi'n dechrau gweld dy fywyd drwy lens ffafr Duw.



Meddylia am y peth: Beth yw rhai o'r pethau da yn dy fywyd sy'n hawdd iawn i'w hesgeuluso?



GWEDDI: Diolch dduw am fod yn rhan o'm bywyd. Helpa fi i agor fy llygaid a gweld mai ti yw ffynhonnell popeth da a dy fod yn dod â ffafr i'm mywyd bob dydd. Yn enw Iesu. Amen

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Believing God Is Good No Matter What

Mae yna rai negeseuon heddiw, tu allan a thu mewn i'r eglwys, sydd wedi llygru gwir neges ffafr Duw. Y gwir ydy does dim rheidrwydd ar Dduw i ddarparu pethau da ar ein gyfer - ond dyna mae e ei eisiau! Gall y pum niwrnod...

More

Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah Publishing Group am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.goodthingsbook.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd