Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Mae credu Duw yn beth da beth bynnag sy'n bodSampl

Believing God Is Good No Matter What

DYDD 2 O 5

Ffafriaeth Teuluol

Mae ffafr Duw yn llifo i mewn i'n bywydau yr un mor naturiol ag y mae ffafr tad yn llifo i mewn i fywyd ei blant. (ac mae e y darlun gwychaf o dad y gallet fyth freuddwydio amdano neu'i ddychmygu) Mae Duw yn dy garu. Mae'n edrych arnat fel ei blentyn, ac mae hynny'n dy wneud, o fewn dy genhedlaeth, yn dderbynnydd ei fendith.


Paid meddwl fod rhaid ymddiheuro i bobl, neu gyfiawnhau daioni Duw i'r rheiny sydd efallai ddim yn deall neu gytuno. Mae yna bobl bob amser yn aros i feirniadu dy fuddugoliaeth neu anwybyddu dy fendith amserol, oherwydd eu bod yn teimlo bod rhywun arall yn fwy haeddiannol. Os wyt fyth yna rhywun sydd ddim yn haeddu bendith maen nhw wedi'i dderbyn (hei, dŷn ni i gyd wedi bod yn y sefyllfa yna...), rwyt fwy na thebyg yn gywir! Ond dyma ennyd bach i'th sobri: fedrwn ni ddim digio am ffafr nad oes hawl iddo ym mywyd rhywun arall, os ydym yn mynd i'w dderbyn yn agored ein hunain.


Ystyria hyn: Oes yna esiamplau, yn dy fywyd, o dderbyn ffafr annisgwyl neu anhaeddiannol?


GWEDDÏA:O Dduw, diolch am fod yn Dad i mi. Does dim ots sut mae fy nhad daearol wedi bod, rwyt yn Dad hael gyda ffafr di-ddiwedd ar gyfer fy nyfodol. Dysga fi heddiw i dderbyn y ffafr teuluol rwyt wedi'i osod arna i fel dy blentyn. Yn enw Iesu, Amen.



Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Believing God Is Good No Matter What

Mae yna rai negeseuon heddiw, tu allan a thu mewn i'r eglwys, sydd wedi llygru gwir neges ffafr Duw. Y gwir ydy does dim rheidrwydd ar Dduw i ddarparu pethau da ar ein gyfer - ond dyna mae e ei eisiau! Gall y pum niwrnod...

More

Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah Publishing Group am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.goodthingsbook.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd