Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dod o hyd i HeddwchSampl

Finding Peace

DYDD 3 O 17

Pan dŷn ni'n Colli ein Heddwch



Does dim ond un ffordd o brofi heddwch arhosol sy'n rhagori ar sefyllfaoedd - drwy ffydd. Ffydd yw'r sylfaen ar gyfer byw yn heddwch Duw - tryst bywiog, gweithredol, yn ei bresenoldeb a'i rym i'th gynnal a dy gysuro di, waeth beth yw'r sefyllfa rwyt yn ei wynebu.
fodd bynnag, mae yna rai materion sy'n gallu tanseilio ein ffydd a dwyn ein heddwch. Gad i ni ystyried rhai ohonyn nhw.



1. Braw sydyn - Mae rhai pobl wedi arfer cymaint efo ymateb i bob cyfnod o ostyngiad a chodi mewn bywyd o ofn a dogn o banig, fel na fedran nhw hyd yn oed ddychmygu bod ffordd arall i ymateb. Mae nhw wedi torri eu calon gymaint gan newidiadau o bob math fel nad ydyn nhw wedi ystyried eu bod yn gallu byw gyda sefydlogrwydd emosiynol sydd gymaint mwy.

2. Y Gelyn.Gall ein gelyn, y diafol, ymosod drwy ddefnyddio sawl dull i achosi ansicrwydd a cholli ffydd yn Nuw. Ond rhaid i ni sefyll yn gadarn. Mae'r Gair yn ein hannog i wrthsefyll y diafol, a phan wnawn, bydd e'n dianc oddi wrthom (Iago, pennod 4, adnod 7).

3. Pechod - Fedrith heddwch a gwrthryfel fyth gyd-fyw. Yr unig ateb yw cyffesu ein pechod i Dduw, ildio iddo fe, a gofyn am ei help i droi oddi wrth a gwrthsefyll pob temtasiwn. Yna, gal heddwch Dduw ail ddechrau llifo.

4.Ildio Heddwch - Mewn cyfnodau o argyfwng, dŷn ni weithiau'n o'n gwirfodd yn ildio ein heddwch. Dŷn ni'n rhoi mewn, Dŷn ni'n cydsynio. Dŷn ni'n rhoi'r gorau iddo. Cofia - gall neb, fyth, gymryd ein heddwch oddi wrthym, mae'n rhaid ei ildio. Ac i raddau, dim ond ni all ei gymryd nôl.

5. Colli Ffocws - Gallwn ganiatáu y myrdd o senarios newyddion drwg dŷn ni'n clywed a darllen amdanyn nhw'n ddyddiol achosi i ni golli ffocws. Yn lle canolbwyntio ein meddwl ar Dduw a'i drystio am ei heddwch a phresenoldeb, dŷn ni'n caniatáu ein meddyliau i'n taflu oddi ar ein hechel a galfanu'r newyddion
Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Finding Peace

Wyt ti eisiau mwy o heddwch yn dy fywyd? Wyt ti eisiau tawelwch i fod yn fwy na dim ond dymuniad? Mi elli di ennill heddwch, ond dim ond o un ffynhonnell - Duw. Ymunwch â Dr. Charles Stanley wrth iddo ddangos y ffordd i ...

More

Hoffem ddiolch i Joyce Meyer yn Touch Ministries am ddarparu'e cynllun darllen hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://intouch.cc/peace-yv

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd