Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dod o hyd i HeddwchSampl

Finding Peace

DYDD 1 O 17

Y sylfaen ar gyfer Heddwch cyfan gwbl.



Cyn digwyddiad ble roeddwn i siarad, roedd ffrind a fi yn mwynhau pryd o fwyd mewn bwyty. Tra roedd y weinyddes ifanc yn gweini arnom gofynnais iddi, "Pe bydde ti'n gofyn i Dduw am unrhyw beth yn dy fywyd, beth fydde ti'n gofyn amdano?"



Heb oedi ei hateb oedd, "Mi faswn i'n gofyn am heddwch."



Llifodd deigryn i lawr ei boch wrth iddi rannu am farwolaeth ei nain ddyddiau'n gynt.



Wrth iddi rannu ei stori daeth yn amlwg nad oedd neb o'i theulu yn credu yn Nuw - na hithau chwaith. Doedd hi ddim yn ymwybodol ei bod wedi'i wrthod. Y cwbl wyddai hi oedd bod yna aflonyddwch dwfn o'i mewn, ond doedd ganddi hi ddim syniad sut i ddatrys y cythrwfl mewnol hwnnw, na hyd yn oed beth oedd gwreiddyn hwnnw. Fel llawer iawn o bobl, roedd hi'n byw o ddydd i ddydd, heb fawr bwrpas yn ei bywyd.



Mae'r ferch ifanc yma yn cynrychioli gymaint o bobl yn ein cymdeithas heddiw - yn mynd drwy fywyd, ymdrechu i gael dau ben llinyn ynghyd, chwilio am ffordd ble nad oes un, a cheisio gwneud synnwyr o bopeth.



Yn amlach na pheidio, mae'n edrych fel nad oes ateb digonol i gyfyng-gyngor y ddynoliaeth - yn arbennig felly i'r cwestiwn sy'n gofyn, pam ein bod yn teimlo mor wag ac yn brin o heddwch. Yn fwy na hynny, mae'n ymddangos nad oes unrhyw reswm i ymdrechu hyd eithaf ein gallu a dal i ddioddef helbulon bywyd.



Esboniodd y weinyddes ifanc, yn syml, "Dw i angen heddwch." Byddai eraill yn dweud, "Dw i mor unig." Byddai rhai'n dweud, "Pe bai fy nghymar yn fy ngharu fel mae e/hi i fod i, mi faswn i'n hapus." Ffyrdd gwahanol o ddweud yr un hen gân. " Mae rhywbeth o'i le... Dw i ddim yn hapus. Does gen i ddim heddwch. Beth sy'n bod arna i|?!



Mae'r rhan fwyaf o'r rheiny sy'n dioddef negeseuon ein cymdeithas seciwlar yn profi'r gwagle hwn ond ddim yn cysylltu'r broblem gyda Duw. Dŷn ni dan ymosodiad di-ddiwedd y gymdeithas sy'n honni, "Tase ti ddim ond fymryn teneuach, yn gwisgo dillad gyda steil gwell, gyrru car mwy drudfawr, byw mewn rhan mwy cyfoethog o'r dre, yn ennill mwy o bres..." Mae'r rhestr yn ddi-ddiwedd. Ond gall ddim un o'r atebion gwerthfawr hyn i'n problemau, neu unrhyw un o'r cannoedd o eraill a gynigir i ni, fedru'n derfynol a boddhaol ddarparu'r hyn dŷn ni'n crefu amdano.



Roedd y weinyddes ifanc yn berffaith iawn: Mae'r rhan fwyaf ohonom yn teimlo bod arnom angen rhywbeth gymaint mwy - a'r gair sy'n cwmpasu hynny orau yw heddwch.



Fel gweinidog am dros chwe degawd, gallaf ddweud, nes bod gennych heddwch gyda Duw, wnewch chi fyth brofi heddwch go iawn yn y bywyd hwn.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Finding Peace

Wyt ti eisiau mwy o heddwch yn dy fywyd? Wyt ti eisiau tawelwch i fod yn fwy na dim ond dymuniad? Mi elli di ennill heddwch, ond dim ond o un ffynhonnell - Duw. Ymunwch â Dr. Charles Stanley wrth iddo ddangos y ffordd i ...

More

Hoffem ddiolch i Joyce Meyer yn Touch Ministries am ddarparu'e cynllun darllen hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://intouch.cc/peace-yv

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd