Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dod o hyd i HeddwchSampl

Finding Peace

DYDD 5 O 17

Y modd mae dy Feddyliau yn effeithio ar dy Heddwch

Os dŷn ni'n onest efo ni ei hunain, dydy'r rhan fwyaf ohonom ddim pwy na beth dŷn ni'n ei feddwl ydyn ni. Mae win meddylfryd wedi'i andwyo gan amlaf, ar goll, ac angen ei newid.



Sut ydw i'n gwybod fod hyn yn wir> Ar wahân i fy mhrofiad

Os dŷn ni'n onest efo ni ein hunain, tydi'r rhan fwyaf ohonom ni, ddim pwy na beth dŷn ni'n ei feddwl ydyn ni. Mae ein meddylf o weinidogaethu gymaint ar hyd y blynyddoedd, mae Gair Duw yn ein galw i "adnewyddu" ein meddyliau. Mae hynny yn golygu ffeirio hen ddirnadaeth, safbwyntiau, syniadau, credoau, ac agweddau hunanol am set newydd, y bydd Duw yn datblygu ynom, i gymryd eu lle. Mae'r ymatebion duwiol hyn yn cael eu meithrin drwy ddarllen y Gair a myfyrio ar hyn sydd wedi'i ddarllen yn y Beibl. Mae dilynwyr Crist yn cael eu hannog i "stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi'n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau." (Rhufeiniaid, pennod 12, adnod 2).



Allan o adnewyddu ein meddylfryd daw newid ym mhatrwm ein llefereydd a'n ymddygiad. Wrth i'n lleferydd a'n hymddygiad gael ei adnewyddu, mae ein perthynas ag eraill yn cael ei adnewyddu. Ac wrth i'n perthynas ag eraill gael ei adnewyddu, mae byd o'n cwmpas yn cael ei adnewyddu hefyd. Mae e i gyd yn dechrau yn y meddwl, yr hyn dŷn ni'n ddewis i'w feddwl a beth dŷn ni'n dewis meddwl amdano.



Mae'r gallu gennyt i benderfynu beth rwyt ti'n feddwl amdano. Ar amrantiad gelli ail-ffocysu dy feddwl i bwnc newydd, tasg, neu broblem i'w datrys, yn lle meddyliau negatif fydd yn dwyn dy heddwch ac / neu yn dy arwain i wrthryfela neu bechu. Mae'r gallu gennyt i ddweud, "Dw i'n dewis trystio Duw" mewn unrhyw sefyllfa rwyt yn ei wynebu neu feddyliau rwyt yn eu cael.



Yn fwy na hynny, bydd unrhyw blentyn i dduw sy'n gwrthsefyll unrhyw feddyliau sy'n amlwg yn niweidiol yn mynd i gael llwybr i ddianc o'r sefyllfa honno. Bydd Duw yn dy helpu i ffocysu dy feddwl ar rywbeth arall, yn hytrach na dy broblem neu feddwl drwg os wyt yn cymryd y camau cyntaf i nesáu



Pan wyt yn amddiffyn dy feddwl, ti'n amddiffyn dy heddwch mewnol. Pan wyt yn gweddïo'n daer mewn ffydd a diolchgarwch - beth bynnag fydd y treialon rwyt yn eu hwynebu - mae yn sicrhau i ti heddwch mewnol (Philipiaid, pennod 4, adnod 6 i 7). A phan fyddi'n ffocysu dy feddwl ar hyn sydd yn wir, bonheddig, rinweddol, hyfryd, pur a chanmoladwy, byddi'n dibynnu ar Dduw gymaint mwy mewn ffydd ac ymddiriedaeth.



Bydd dim diwedd i dy allu i feddwl am ddaioni A mawredd duw. Dewisa ymateb i fywyd fel y gwnaeth Iesu ymateb. Amddiffyn dy fywyd o weddi. Amddiffyn dy fywyd o feddyliau. Chwilia am y Tad a'r cwbl sy'n dduwiol. Mae ei Air yn addo pan fyddi'n llenwi dy feddwl gyda'r hyn sy'n rinweddol a chanmoladwy, "bydd y Duw sy'n rhoi ei heddwch gyda chi." (Philipiaid, pennod 4, adnod 9)


Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Finding Peace

Wyt ti eisiau mwy o heddwch yn dy fywyd? Wyt ti eisiau tawelwch i fod yn fwy na dim ond dymuniad? Mi elli di ennill heddwch, ond dim ond o un ffynhonnell - Duw. Ymunwch â Dr. Charles Stanley wrth iddo ddangos y ffordd i ...

More

Hoffem ddiolch i Joyce Meyer yn Touch Ministries am ddarparu'e cynllun darllen hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://intouch.cc/peace-yv

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd