Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: Mosaic'Sampl

Devotions for Lent from Holy Bible: Mosaic

DYDD 35 O 46

Didache (Dysgu'r Deuddeg Apostol, tua. A.D. 90)

Paid gadael i'th ymprydion fod gyda'r rhagrithwyr, gan eu bod nhw'n ymprydio ar yr ail a'r pumed diwrnod o'r wythnos, ond ymprydia ar y pedwerydd dydd a'r diwrnod Paratoi (dydd Gwener). Paid gweddïo fel y rhagrithiwr ond fel y gorchmynnodd yr Arglwydd yn ei Efengyl: Ein Tad sydd yn y nefoedd, dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu. Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu, ac i'r cwbl sy'n dda yn dy olwg di ddigwydd yma ar y ddaear fel mae'n digwydd yn y nefoedd. Rho i ni ddigon o fwyd i'n cadw ni'n fyw am heddiw. Maddau i ni am bob dyled i ti
yn union fel dŷn ni'n maddau i'r rhai sydd mewn dyled i ni. Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi,
ac achub ni o afael y drwg. Oherwydd eiddo ti yw’r deyrnas a’r gallu a’r gogoniant am byth. Amen Gweddïa hyn deirgwaith y dydd.

Ysgrythur

Am y Cynllun hwn

Devotions for Lent from Holy Bible: Mosaic

Mae'r defosiynau dyddiol hyn dros dymor 46 diwrnod y Grawys, sydd wedi'u haddasu o 'Holy Bible: Mosaic' yn cyfuno dyfyniadau, darlleniadau ac Ysgrythur i'th helpu i ganolbwyntio dy feddwl ar Grist. Pa un ai os wyt yn gwybod a'i peidio beth yw ystyr y Grawys neu dy fod wedi cadw at draddodiad y Grawys a'r calendr eglwysig dy holl fywyd, byddi'n gwerthfawrogi'r darlleniadau o'r Ysgrythur a chraffter defosiynol Cristnogion ar hyd a lled y byd ac mewn hanes drwyddi draw. Ymuna hefo ni a'r eglwys drwy'r byd i ffocysu ar Iesu drwy'r wythnosau sy'n arwain i fyny i'r Pasg.

More

Hoffem ddiolch i Tyndale House Publishers am eu haelioni drwy ddarparu defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: M osaic', ewch i: www.tyndale.com/p/holy-bible-mosaic-nlt/9781414322056