Salm 34
34
Salm Dafydd, pan newidiodd efe ei wedd o flaen Abimelech : yr hwn a’i gyrrodd ef ymaith, ac efe a ymadawodd.
1Bendithiaf yr / Arglwydd · bob / amser :
ei foliant fydd / yn fy / ngenau · yn / wastad.
2Yn yr Arglwydd y gorfo/ledda · fy / enaid :
y rhai gostyngedig a glywant / hyn · ac a / lawe/nychant.
3Mawrygwch yr Arglwydd / gyda / mi :
a chyd-ddyr/chafwn · ei / enw / ef.
4Ceisiais yr Arglwydd ac e/fe a’m · gwran/dawodd :
gwaredodd fi / hefyd · o’m / holl / ofn.
5Edrychasant arno a / hwy · a o/leuwyd :
a’u hwy/nebau · ni / chywi/lyddiwyd.
6Y tlawd hwn a lefodd a’r / Arglwydd · a’i / clybu :
ac a’i gwa/redodd · o’i / holl dra/llodau.
7Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a’i / hofnant / ef :
ac / a’u / gwared / hwynt.
8Profwch a gwelwch mor / dda · yw yr / Arglwydd :
gwyn ei fyd y gŵr a / ymddir/iedo / ynddo.
9Ofnwch yr Arglwydd ei / saint / ef :
canys nid oes eisiau ar y / rhai a’i / hofnant / ef.
10Y mae eisiau a newyn ar y / llewod / ieuainc :
ond y sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt / eisiau / dim da/ioni.
11Deuwch blant gwran/dewch arnaf :
dysgaf / i chwi / ofn yr / Arglwydd.
12Pwy yw y gŵr a / chwennych / fywyd :
ac a gâr hir / ddyddiau · i / weled / daioni?
13Cadw dy / dafod · rhag / drwg :
a’th we/fusau · rhag / traethu / twyll.
14Cilia oddi wrth / ddrwg · a gwna / dda :
ymgais â thang/nefedd · a / dilyn / hi.
15Llygaid yr Arglwydd sydd / ar y / cyfiawn :
a’i glustiau sydd yn a/gored · i’w / llefain / hwynt.
16Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y / rhai a · wna / ddrwg :
i dorri eu / coffa · oddi / ar y / ddaear.
17Y rhai cyfiawn a lefant a’r / Arglwydd · a / glyw :
ac a’u / gwared · o’u / holl dra/llodau.
18Agos yw yr Arglwydd at y rhai dryll/iedig · o / galon :
ac efe a geidw y / rhai bri/wedig · o / ysbryd.
19Aml ddrygau a / gaiff y / cyfiawn :
ond yr Arglwydd a’i gwared ef / oddi / wrthynt / oll.
20Efe a geidw ei / holl / esgyrn ef :
ni / thorrir / un o/honynt.
21Drygioni a / ladd · yr an/nuwiol :
a’r rhai a gasânt y / cyfiawn / a an/rheithir.
22Yr Arglwydd a wared e/neidiau · ei / weision :
a’r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef / nid an/rheithir / hwynt.
Dewis Presennol:
Salm 34: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984