Salm 35
35
Salm Dafydd.
1Dadlau fy nadl, Arglwydd * yn erbyn y rhai a ddad/leuant · i’m / herbyn :
ymladd â’r / rhai a · ym/laddant · â / mi.
2Ymafael yn y / darian a’r · astalch :
a / chyfod / i’m / cymorth.
3Dwg allan y waywffon * ac argaea yn / erbyn · fy er/lidwyr :
dywed wrth fy enaid * My/fi · yw dy / iachaw/dwriaeth.
[4Cywilyddier a gwaradwydder y rhai a / geisiant · fy / enaid :
ymchweler yn eu hôl * a gwarthaer y / sawl a · fwr/iadant · fy / nrygu.
5Byddant fel us o / flaen y / gwynt :
ac angel yr / Arglwydd / yn eu / herlid.
6Bydded eu ffordd yn dywyllwch / ac yn · llith/rigfa :
ac angel yr / Arglwydd / yn eu / hymlid.
7Canys heb achos y cuddiasant eu rhwyd i / mi mewn / pydew :
yr hwn heb achos / a glodd/iasant · i’m / henaid.
8Deued arno ddistryw ni wypo * a’i rwyd yr hon a / guddiodd · a’i / dalio :
syrthied / yn y / distryw / hwnnw.]
9A llawenycha fy enaid i / yn yr / Arglwydd :
efe a ymhyfryda yn ei / iachaw/dwriaeth /ef.
10Fy holl esgyrn a ddywedant * O Arglwydd pwy sydd fel tydi * yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo / drech nag / ef :
y truan hefyd a’r tlawd / rhag y / neb · a’i hys/beilio?
11Tystion gau a / gyfo/dasant :
holasant i mi yr / hyn nis / gwn · oddi / wrtho.
12Talasant i mi / ddrwg dros / dda :
i ys/beilio / fy / enaid.
13A minnau, pan glafychent hwy, oeddwn â’m gwisg o sachlen * gostyngais fy / enaid · ag / ympryd :
a’m gweddi a ddy/chwelodd · i’m / mynwes · fy / hun.
14Ymddygais fel pe buasai yn gyfaill neu yn / frawd i / mi :
ymostyngais mewn galarwisg fel un yn ga/laru / am ei / fam.
15Ond ymlawenhasant hwy yn fy adfyd i ac / ymgasg/lasant :
ie ymgasglodd efryddion yn fy erbyn ac nis gwyddwn * rhwy/gasant · fi / ac ni / pheidient.
16Ymysg y gwatwarwyr rhag/rithiol · mewn / gwleddoedd :
ysgyrny/gasant · eu / dannedd / arnaf.
17Arglwydd pa hyd yr edrychi / di ar / hyn? :
gwared fy enaid rhag eu distryw hwynt * fy unig / enaid / rhag y / llewod.
18Mi a’th glodforaf yn y gynu/lleidfa / fawr :
moliannaf / di · ymhlith / pobl / lawer.
19Na lawenychant o’m herwydd y rhai sydd elynion i / mi heb /
achos : y sawl a’m casânt yn ddiachos / nac am/neidiant · â / llygad.
20Gan nad ymddiddanant yn / dangne/feddus :
eithr dychmygant eiriau dichellgar yn erbyn y rhai / llonydd / yn y / tir.
21Lledasant eu safn arnaf / gan ddy/wedyd :
Ha / ha / gwelodd · ein / llygad.
22Gwelaist / hyn / Arglwydd :
na thaw dithau * nac ymbellha oddi / wrthyf / O / Arglwydd.
23Cyfod a / deffro · i’m / barn :
sef i’m / dadl · fy / Nuw a’m / Harglwydd.
24Barn fi Arglwydd fy Nuw yn / ôl · dy gyf/iawnder :
ac / na · lawen/hânt o’m / plegid.
25Na ddywedant yn eu calon / O ein / gwynfyd :
na ddy/wedant · Llyn/casom / ef.
26Cywilyddier a gwaradwydder hwy i gyd * y rhai sydd lawen / am fy / nrygfyd :
gwisger â gwarth ac â chywilydd y rhai a / ymfaw/rygant · i’m / herbyn.
27Caned a llawenyched y rhai a hoffant / fy nghyf/iawnder :
dywedant hefyd yn wastad * Mawryger yr Arglwydd yr hwn a / gâr / lwyddiant · ei / was.
28Fy nhafod innau a lefara / am dy · gyf/iawnder :
a’th / foliant · ar / hyd y / dydd.
Dewis Presennol:
Salm 35: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984