Salm 33
33
1Ymlawenhewch, y rhai cyfiawn / yn yr / Arglwydd :
i’r rhai / uniawn / gweddus · yw / mawl.
2Molwch yr / Arglwydd · â’r / delyn :
cenwch iddo â’r / nabl / ac â’r / dectant.
3Cenwch iddo / ganiad / newydd :
cenwch yn / gerddgar / yn soniarus.
4Canys uniawn yw / gair yr / Arglwydd :
a’i holl weithredoedd a / wnaed / mewn ffydd/londeb.
5Efe a gâr gyf/iawnder · a / barn :
o drugaredd yr Arglwydd y / mae y / ddaear · yn / gyflawn.
6Trwy air yr Arglwydd y / gwnaethpwyd · y / nefoedd :
a’u holl luoedd hwy trwy / ysbryd · ei / enau / ef.
7Casglu y mae efe ddyfroedd y môr yng/hyd · megis / pentwr :
y mae yn rhoddi y dyfn/deroedd / mewn try/sorau.
8Ofned yr holl / ddaear · yr / Arglwydd :
holl drigolion y / byd ar/swydant / ef.
9Canys efe a ddywedodd ac / felly · y / bu :
efe a orch/mynnodd · a / hynny · a / safodd.
10Yr Arglwydd sydd yn diddymu / cyngor · y cen/hedloedd :
y mae efe yn di/ddymu · am/canion / pobloedd.
11Cyngor yr Arglwydd a / saif yn · dra/gywydd :
meddyliau ei galon o gen/hedlaeth / i gen/hedlaeth.
12Gwyn ei byd y genedl y mae yr / Arglwydd · yn / Dduw iddi :
a’r bobl a ddetholodd efe yn eti/feddiaeth / iddo · ei / hun.
13Yr Arglwydd sydd yn edrych i / lawr o’r / nefoedd :
y mae yn / gweled · holl / feibion / dynion.
14O / breswyl · ei / drigfa :
yr edrych efe ar / holl dri/golion · y / ddaear.
15Efe a gydluniodd eu / calon / hwynt :
efe a / ddeall · eu / holl weith/redoedd.
16Ni waredir brenin gan / liaws / llu :
ni ddianc cadarn / trwy ei / fawr / gryfder.
17Peth ofer yw / march · i ym/wared :
ac nid achub efe / neb · trwy ei / fawr / gryfder.
18Wele y mae llygad yr Arglwydd ar y rhai a’i / hofnant / ef :
sef ar y rhai a obeithiant / yn ei · dru/garedd / ef;
19I waredu eu / henaid · rhag / angau :
ac i’w cadw yn / fyw yn / amser / newyn.
20Ein henaid sydd yn disgwyl / am yr / Arglwydd :
e/fe · yw ein / porth a’n / tarian.
21Canys ynddo ef y llawe/nycha · ein / calon :
oherwydd i ni obeithio yn ei / enw / sanctaidd / ef.
22Bydded dy drugaredd, Arglwydd / arnom / ni :
megis yr / ydym · yn ym/ddiried / ynot.
Dewis Presennol:
Salm 33: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984