Salm 89
89
Maschil Ethan yr Esrahiad.
1Trugareddau yr Arglwydd a ddat/ganaf / byth :
â’m genau y mynegaf dy wirionedd * o gen/hedlaeth / hyd gen/hedlaeth.
2Canys dywedais * Adeiledir tru/garedd · yn dra/gywydd :
yn y nefoedd y sicr/hei / dy wir/ionedd.
3Gwneuthum amod â’m / hetho/ledig :
tyngais / i’m / gwas / Dafydd.
4Yn dragywydd y sicr/haf dy / had di :
ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adei/ladaf · dy or/seddfainc / di.
5A’r nefoedd O Arglwydd a fol/iannant · dy ry/feddod :
a’th wirionedd yng / nghynu/lleidfa · y / saint.
6Canys pwy yn y nef a gys/tedlir · â’r / Arglwydd? :
pwy a gyffelybir i’r Arglwydd y/mysg / meibion · y / cedyrn?
7Duw sydd ofnadwy iawn yng nghynu/lleidfa · y / saint :
ac i’w ar/swydo · yn ei / holl am/gylchoedd.
8O Arglwydd Dduw y lluoedd * pwy sydd / fel ty/di :
yn gadarn / Iôr · a’th wir/ionedd · o’th / amgylch?
9Ti wyt yn llywodraethu / ymchwydd · y / môr :
pan gyfodo ei / donnau / ti · a’u gos/tegi.
10Ti a ddrylliaist yr Aifft fel / un lla/ddedig :
trwy nerth dy fraich y gwas/geraist / dy e/lynion.
11Y nefoedd ydynt eiddot ti * a’r ddaear sydd / eiddot / ti :
ti a / seiliaist · y / byd · a’i gyf/lawnder.
12Ti a greaist / ogledd · a / deau :
Tabor a Hermon a lawe/nychant / yn dy / enw.
13Y mae i ti / fraich · a cha/dernid :
cadarn yw dy law ac / uchel / yw · dy dde/heulaw.
14Cyfiawnder a barn yw / trigfa · dy or/seddfainc :
trugaredd a gwir/ionedd · a rag/flaenant · dy / wyneb.
15Gwyn eu byd y bobl a ad/waenant · yr hyf/rydlais :
yn llewyrch dy wyneb O / Arglwydd · y / rhodiant / hwy.
16Yn dy enw di y gorfo/leddant / beunydd :
ac yn dy gyf/iawnder · yr / ymddyr/chafant.
17Canys godidowgrwydd eu cadernid hwynt / ydwyt / ti :
ac yn dy ewyllys / da · y dyr/chefir · ein / corn ni.
18Canys yr Arglwydd / yw ein / tarian :
a Sanct / Israel / yw ein / Brenin.
19Yna yr ymddiddenaist mewn gweledigaeth â’th / Sanct · ac a ddy/wedaist :
Gosodais gymorth ar un cadarn * dyrchefais un / etho/ledig · o’r / bobl.
20Cefais Dafydd fy / ngwasa/naethwr :
eneiniais / ef â’m / holew / sanctaidd :
21Yr hwn y sicrheir fy / llaw / gydag ef :
a’m / braich a’i / nertha / ef.
22Ni orthryma y / gelyn / ef :
a’r mab anwir / nis cys/tuddia / ef.
23Ac mi a goethaf ei e/lynion · o’i / flaen :
a’i ga/seion / a / drawaf.
24Fy ngwirionedd hefyd a’m trugaredd fydd / gydag / ef :
ac yn fy / enw · y dyr/chefir · ei / gorn ef.
25A gosodaf ei / law · yn y / môr :
a’i dde/heulaw / yn yr · a/fonydd.
26Efe a lefa arnaf * Ti yw fy / Nhad fy / Nuw :
a / Chraig fy / iachaw/dwriaeth.
27Minnau a’i gwnaf / yntau · yn / gynfab :
gor/uwch bren/hinoedd · y / ddaear.
28Cadwaf iddo fy nhru/garedd · yn dra/gywydd :
a’m cy/famod · fydd / sicr / iddo.
† 29Gosodaf hefyd ei / had · yn dra/gywydd :
a’i or/seddfainc · fel / dyddiau · y / nefoedd.
30Os ei feibion a a/dawant · fy / nghyfraith :
ac ni rodiant / yn fy / marne · di/gaethau;
31Os fy neddfau / a ha/logant :
a’m gorch/mynion / ni / chadwant :
32Yna mi a ymwelaf â’u camwedd / â gwi/alen :
ac â’u han/wiredd / â ffre/wyllau.
33Ond ni thorraf fy nhru/garedd · oddi / wrtho :
ac ni / phallaf / o’m gwir/ionedd.
34Ni thorraf / fy nghy/famod :
ac ni newidiaf yr / hyn a · ddaeth / allan · o’m / genau.
35Tyngais unwaith / i’m sanc/teiddrwydd :
na ddy/wedwn / gelwydd · i / Dafydd.
36Bydd ei had ef / yn dra/gywydd :
a’i orseddfainc fel yr / haul / ger fy / mron i.
37Sicrheir ef yn dragywydd / fel y / lleuad :
ac fel tyst / ffyddlon / yn y / nef.
38Ond ti a wr/thodaist · ac a ffi/eiddiaist :
ti a / ddigiaist / wrth · dy E/neiniog.
39Diddymaist gy/famod · dy / was :
halogaist ei goron / gan ei / thaflu · i / lawr.
40Drylliaist ei holl / gaeau / ef :
gwnaethost ei / am · ddiffyn/feydd · yn a/dwyau.
41Yr holl fforddolion a’i hys/beiliant / ef :
aeth yn / warthrudd / i’w gym/dogion.
42Dyrchefaist ddeheulaw ei / wrthwy/nebwyr :
llawen/heaist · ei / holl e/lynion.
43Troaist hefyd / fin ei / gleddyf :
ac ni chadarn/heaist / ef mewn / rhyfel.
44Peraist i’w / harddwch / ddarfod :
a / bwriaist · ei or/seddfainc · i / lawr.
45Byrheaist / ddyddiau · ei ieu/enctid :
toaist gy/wilydd / drosto / ef.
46Pa hyd, Arglwydd yr ymguddi? * ai / yn dra/gywydd? :
a lysg dy ddi/gofaint / di fel / tân?
47Cofia pa amser / sydd i / mi :
paham y creaist / holl blant / dynion · yn / ofer?
48Pa ŵr a fydd byw ac ni / wêl far/wolaeth? :
a wared efe ei / enaid · o / law y / bedd?
49Pa le y mae dy hen druga/reddau · O / Arglwydd :
y rhai a dyngaist i / Dafydd / yn dy · wir/ionedd?
50Cofia O Arglwydd wa/radwydd · dy / weision :
yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr / holl / bobloedd / fawrion;
51Â’r hwn y gwaradwyddodd dy e/lynion · O / Arglwydd :
â’r hwn y gwaradwy/ddasant · ôl / troed · dy E/neiniog.
† 52Bendigedig fyddo yr / Arglwydd · yn dra/gywydd :
A/men ac / A/men.
Currently Selected:
Salm 89: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984