Bible App logo
Search Icon

Salm 88

88
Salm neu Gân meibion Cora, i’r Pencerdd ar Mahalath Leannoth, Maschil Heman yr Esrahiad.
1O Arglwydd Dduw fy / iachaw/dwriaeth :
gwaeddais o’th / flaen / ddydd a / / nos.
2Deued fy ngweddi / ger dy / fron :
gostwng dy / glust / at fy / llefain.
3Canys fy enaid a lanwyd / o flin/derau :
a’m heinioes / a ne/sâ i’r / beddrod.
4Cyfrifwyd fi gyda’r rhai a ddis/gynnant · i’r / pwll :
yr / ydwyf · fel / gŵr heb / nerth.
5Yn rhydd ymysg y meirw * fel rhai wedi eu lladd yn / gorwedd · mewn / bedd :
y rhai ni chofi mwy * a hwy a / dorrwyd · oddi / wrth dy / law.
6Gosodaist fi / yn y · pwll / isaf :
mewn ty/wyllwch / yn y · dyfn/derau.
7Y mae dy ddigofaint yn / pwyso / arnaf :
ac â’th holl / donnau / y’m cys/tuddiaist.
8Pellheaist fy nghyd/nabod · oddi / wrthyf :
gwnaethost fi yn ffieidd-dra iddynt * gwarchaewyd fi / fel nad / awn / allan.
9Fy llygad a ofidiodd / gan fy / nghystudd :
llefais arnat Arglwydd beunydd * es/tynnais · fy / nwylo / atat.
10Ai i’r meirw y / gwnei ry/feddod? :
a gyfyd y / meirw · a’th fol/iannu / di?
11A draethir dy dru/garedd · mewn / bedd? :
a’th wir/ionedd / yn / nistryw?
12A adwaenir dy ryfeddod / yn y · ty/wyllwch? :
a’th gyf/iawnder · yn / nhir / angof?
13Ond myfi a lefais / arnat / Arglwydd :
yn fore yr / achub · fy / ngweddi · dy / flaen.
14Paham Arglwydd y gwr/thodi · fy / enaid? :
y cuddi dy / wyneb / oddi / wrthyf?
15Truan ydwyf fi * ac ar drancedigaeth / o’m hieu/enctid :
dygais dy ofn ac yr / ydwyf / yn pet/ruso.
16Dy soriant a / aeth / drosof :
dy ddychrynedi/gaethau · a’u / torrodd / ymaith.
17Fel dwfr y’m cylchy/nasant / beunydd :
ac y’m / cyd/amgyl/chasant.
18Câr a chyfaill a yrraist y/mhell · oddi / wrthyf :
a’m cyd/nabod / i dy/wyllwch.

Currently Selected:

Salm 88: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salm 88