Bible App logo
Search Icon

Salm 90

90
Gweddi Moses gŵr Duw.
1Ti Arglwydd, fuost yn bre/swylfa · i / ni :
ym / mhob / cen/hedlaeth.
2Cyn gwneuthur y mynyddoedd * a llunio ohonot y / ddaear · a’r / byd :
ti hefyd wyt Dduw o dragwy/ddoldeb · hyd / dragwy/ddoldeb.
3Trôi / ddyn i / ddinistr :
a dywedi, Dy/chwelwch / feibion / dynion.
4Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg / di fel / doe :
wedi yr êl heibio ac fel / gwylia/dwriaeth / nos.
5Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant * y / maent fel / hun :
y bore y maent fel llys/ieuyn / a ne/widir.
6Y bore y blo/deua · ac y / tyf :
prynhawn y torrir ef / ymaith / ac y / gwywa.
7Canys yn dy ddig y di/fethwyd / ni :
ac yn dy lid/iowgrwydd / y’n bra/wychwyd.
8Gosodaist ein hanwiredd / ger dy / fron :
ein dirgel be/chodau · yng ngo/leuni · dy / wyneb.
9Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant * gan dy ddi/gofaint / di :
treuliasom / ein bly/nyddoedd · fel / chwedl.
10Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain * ac os o gryfder y cyrhaeddir / pedwar · ugain / mlynedd :
eto eu nerth sydd boen a blinder * canys ebrwydd y derfydd a / ni · a e/hedwn / ymaith.
11Pwy a edwyn / nerth dy / soriant?
canys fel y mae dy / ofn y / mae dy / ddicter.
12Dysg i ni felly / gyfrif · ein / dyddiau :
fel y dygom ein / calon / i ddoe/thineb.
13Dychwel / Arglwydd · pa / hyd? :
ac edifar/ha o / ran dy / weision.
14Diwalla ni yn fore / â’th dru/garedd :
fel y gorfoleddom ac y llawenychom / dros ein / holl / ddyddiau.
15Llawenha ni yn ôl y dyddiau y cys/tuddiaist / ni :
a’r bly/nyddoedd · y / gwelsom / ddrygfyd.
16Gweler dy waith tuag / at dy / weision :
a’th o/goniant · tuag / at eu / plant hwy.
17A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein / Duw / arnom ni :
a threfna weithred ein dwylo ynom ni * ie / trefna / waith ein / dwylo.

Currently Selected:

Salm 90: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in