Bible App logo
Search Icon

Salm 87

87
Salm neu Gân meibion Cora.
1Ei / sail / sydd :
ar / y my/nyddoedd / sanctaidd.
2Yr Arglwydd a / gâr byrth / Seion :
yn fwy na / holl · breswyl/feydd / Jacob.
3Gogoneddus bethau / a ddy/wedir :
amdanat / ti O / ddinas / Duw.
4Cofiaf Rahab a Babilon / wrth fy · nghyd/nabod :
wele Philistia a Thyrus ynghyd ag Ethiopia / yno · y / ganwyd / hwn.
5Ac am Seion y dywedir * Y gŵr a’r gŵr a / anwyd / ynddi :
a’r Goruchaf ei hun a’i / sicr/ha / hi.
6Yr Arglwydd a gyfrif pan ysgri/fenno · y / bobl :
eni / hwn / yno.
7Y cantorion a’r cerddorion a / fyddant / yno :
fy holl ffyn/honnau · sydd / ynot / ti.

Currently Selected:

Salm 87: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salm 87