Bible App logo
Search Icon

Salm 86

86
Gweddi Dafydd.
1Gostwng O Arglwydd dy glust / gwrando / fi :
canys / truan · ac ang/henus / ydwyf.
2Cadw fy enaid canys / sanctaidd / ydwyf :
achub di dy was O fy Nuw * yr hwn / sydd · yn ym/ddiried / ynot.
3Trugarha / wrthyf / Arglwydd :
canys / arnat · y / llefaf / beunydd.
4Llawenha / enaid · dy / was :
canys atat ti / Arglwydd · y dyr/chafaf · fy / enaid.
5Canys ti O Arglwydd ydwyt / dda · a ma/ddeugar :
ac o fawr drugaredd i’r rhai / oll a / alwant / arnat.
6Clyw / Arglwydd · fy / ngweddi :
ac ym/wrando · â / llais fy / ymbil.
7Yn nydd fy nghyfyngder y / llefaf / arnat :
canys / gwran/dewi / fi.
8Nid oes fel tydi ymysg y / duwiau · O / Arglwydd :
na gweithredoedd / fel · dy weith/redoedd / di.
9Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost a ddeuant * ac a addolant ger dy fron / di O / Arglwydd :
ac a / ogo/neddant · dy / enw.
10Canys ydwyt fawr ac yn gwneuthur / rhyfe/ddodau :
ti yn / unig / wyt / Dduw.
11Dysg i mi dy ffordd O Arglwydd * mi a rodiaf / yn dy · wir-/ionedd :
una fy / nghalon · i / ofni · dy / enw.
12Moliannaf di O Arglwydd fy Nuw â’m / holl / galon :
a gogo/neddaf · dy / enw yn · dra/gywydd.
13Canys mawr yw dy drugaredd tuag / ataf / fi :
a gwaredaist fy / enaid · o/uffern / isod.
14Rhai beilchion a gyfodasant i’m / herbyn · O / Dduw :
a chynulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid * ac ni’th osodasant / di / ger eu / bron.
15Eithr ti O Arglwydd wyt Dduw tru/garog · a / graslon :
hwyrfrydig i lid * a helaeth o dru/garedd / a gwir/ionedd.
16Edrych arnaf a thrugar/ha / wrthyf :
dyro dy nerth i’th was * ac achub / fab dy / wasa/naethferch.
17Gwna i mi arwydd er daioni * fel y gwelo fy nghaseion ac y gwara/dwydder / hwynt :
am i ti O Arglwydd fy nghynor/thwyo / a’m di/ddanu.

Currently Selected:

Salm 86: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in