Salm 85
85
I’r Pencerdd, Salm meibion Cora.
1Graslon fuost O / Arglwydd · i’th / dir :
dy/chwelaist · gae/thiwed / Jacob.
2Maddeuaist an/wiredd · dy / bobl :
cuddiaist / eu / holl / bechod.
3Tynnaist ymaith dy / holl / lid :
troaist oddi wrth lid/iowgrwydd / dy / ddicter.
4Tro ni O Dduw ein / hiachaw/dwriaeth :
a thor ymaith dy ddi/gofaint / oddi / wrthym.
5Ai byth y / digi / wrthym? :
a estynni di dy soriant hyd gen/hedlaeth / a chen/hedlaeth?
6Oni throi di / a’n byw/hau ni :
fel y llawenycho dy / bobl / ynot / ti?
7Dangos / i ni, Arglwydd, / dy dru/garedd :
a dod i / ni dy / iachaw/dwriaeth.
8Gwrandawaf beth a ddywed yr / Arglwydd / Dduw :
canys efe a draetha heddwch i’w bobl ac i’w saint * ond na / throant / at yn/fydrwydd.
9Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r / rhai a’i / hofnant :
fel y trigo go/goniant / yn ein / tir ni.
10Trugaredd a gwirionedd a / ym · gyfar/fuant :
cyfiawnder a / heddwch · a ym · gusa/nasant.
11Gwirionedd a / dardda · o’r / ddaear :
a chyfiawnder a /edrych · i / lawr o’r / nefoedd.
12Yr Arglwydd hefyd a / rydd dda/ioni :
a’n / daear · a / rydd ei / chnwd.
13Cyfiawnder a / â o’i / flaen ef :
ac a esyd ei / draed ef / ar y / ffordd.
Currently Selected:
Salm 85: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984