Salm 84
84
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm meibion Cora.
1Mor hawddgar yw dy / bebyll / di :
O / Ar/glwydd y / lluoedd.
2Fy enaid a hiraetha * ie ac a flysia am gyn/teddau · yr / Arglwydd :
fy nghalon a’m cnawd a / waeddant / am y · Duw / byw.
3Aderyn y to hefyd a gafodd dŷ * a’r wennol nyth iddi lle y / gesyd · ei / chywion :
sef dy allorau di, O Arglwydd y lluoedd * fy / Mrenin / a’m / Duw.
4Gwyn fyd pre/swylwyr · dy / dŷ :
yn / wastad / y’th fol/iannant.
5Gwyn ei fyd y dyn y mae ei ga/dernid / ynot :
a’th / ffyrdd / yn eu / calon;
6Y rhai yn myned trwy ddyffryn Bacha a’i / gwnânt yn / ffynnon :
a’r / glaw a / leinw · y / llynnau.
7Ânt o / nerth · i / nerth :
ymddengys pob un ger/bron / Duw yn / Seion.
8O Arglwydd Dduw y lluoedd / clyw fy / ngweddi :
gwrando / O / Dduw / Jacob.
9O Dduw ein / tarian, / gwêl :
ac edrych ar / wyneb / dy E/neiniog.
10Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau / di na / mil :
dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw * o flaen trigo ym / mhebyll annuw/ioldeb.
11Canys haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw * yr Arglwydd a rydd / ras · a go/goniant :
ni atal efe ddim daioni oddi wrth y / rhai a / rodiant · yn / berffaith.
12O / Arglwydd · y / lluoedd :
gwyn fyd y / dyn · a ym/ddiried / ynot.
Currently Selected:
Salm 84: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984