Salm 74
74
Maschil Asaff.
1Paham Dduw y’n bwriaist / heibio · yn dra/gywydd :
ac y myga dy ddigofaint yn / erbyn / defaid · dy / borfa?
2Cofia dy gynulleidfa yr hon a brynaist gynt * a llwyth dy etifeddiaeth yr / hwn a · wa/redaist :
mynydd Seion / hwn · y pre/swyli / ynddo.
3Dyrcha dy draed at / anrhaith · dra/gwyddol :
sef at yr holl ddrwg a wnaeth y / gelyn / yn y / cysegr.
4Dy elynion a ruasant yng nghanol dy / gynu · lleid/faoedd :
gosodasant eu ba/nerau / yn a/rwyddion.
5Hynod / oedd / gŵr :
fel y co/dasai / fwyeill · mewn / drysgoed.
6Ond yn awr y maent yn dryllio ei cherf/iadau · ar / unwaith :
â / bwyeill · ac / â mor/thwylion.
7Bwriasant dy gy/segroedd · yn / tân :
hyd lawr yr halo/gasant · bre/swylfa · dy / enw.
8Dywedasant yn eu calonnau * Cyd-an/rheithiwn / hwynt :
llosgasant holl syna/gogau / Duw · yn y / tir.
9Ni welwn ein harwyddion * nid oes / broffwyd / mwy :
nid oes / gennym · a / ŵyr pa / hyd.
10Pa hyd Dduw y gwarthrudda y / gwrthwy/nebwr? :
a gabla y / gelyn · dy / enw yn · dra/gywydd?
† 11Paham y tynni yn ei hôl dy law / sef dy dde/heulaw? :
tyn hi / allan · o / ganol · dy / fynwes.
12Canys Duw yw fy / Mrenin · o’r dech/reuad :
gwneuthurwr iachaw/dwriaeth · o / fewn y / tir.
13Ti yn dy nerth a / berthaist · y / môr :
drylliaist bennau / dreigiau / yn y / dyfroedd.
14Ti a ddrylliaist / ben · lefi/athan :
rhoddaist ef yn fwyd i’r / bobl / yn yr · an/ialwch.
15Ti a holltaist y / ffynnon · a’r / afon :
ti a ddihys/byddaist · a/fonydd / cryfion.
16Y dydd sydd eiddot ti * y nos hefyd sydd / eiddot / ti :
ti a bara/toaist · o/leuni · a / haul.
17Ti a osodaist holl der/fynau · y / ddaear :
ti a / luniaist / haf a / gaeaf.
18Cofia hyn i’r gelyn / gablu · O / Arglwydd :
ac i’r bobl / ynfyd · ddi/fenwi · dy / enw.
19Na ddyro enaid dy durtur i gynu/lleidfa · y ge/lynion :
nac anghofia gynu/lleidfa · dy dru/einiaid / byth.
20Edrych / ar y · cy/famod :
canys llawn yw tywyll leoedd y / ddaear · o drig/fannau / trawster.
21Na ddychweled y tlawd yn / wara/dwyddus :
molianned y / truan · a’r ang/henus · dy / enw.
22Cyfod O Dduw / dadlau · dy / ddadl :
cofia dy waradwydd / gan yr / ynfyd / beunydd.
23Nac anghofia / lais dy · e/lynion :
dadwrdd y rhai a godant i’th / erbyn · sydd yn / dringo yn · was/tadol.
Currently Selected:
Salm 74: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984