Bible App logo
Search Icon

Salm 75

75
I’r Pencerdd, Al-teschith, Salm neu Gân Asaff.
1Clodforwn dydi O / Dduw clod/forwn :
canys agos yw dy enw * dy ryfeddodau / a fy/negant / hynny.
2Pan dderbyniwyf y / gynu/lleidfa :
mi a / farnaf / yn / uniawn.
3Ymddatododd y ddaear a’i / holl dri/golion :
myfi sydd yn / cynnal / ei cho/lofnau.
4Dywedais wrth y rhai ynfyd / Nac yn/fydwch :
ac wrth y rhai annuwiol / Na ddyr/chefwch · eich / corn :
5Na ddyrchefwch eich / corn yn / uchel :
na ddy/wedwch / yn / warsyth.
6Canys nid o’r dwyrain / nac o’r · gor/llewin :
nac o’r deau y / daw / goru/chafiaeth.
7Ond Duw / sydd yn / barnu :
efe a ostwng y / naill · ac a / gyfyd · y / llall.
8Oblegid y mae ffiol yn llaw yr Arglwydd * a’r gwin sydd goch yn llawn cymysg * ac efe a dy/walltodd · o/hono :
eto holl annuwiolion y tir a wasgant * ac a / yfant / ei wae-/lodion.
9Minnau a fy/negaf · yn dra/gywydd :
ac a / ganaf · i / Dduw / Jacob.
10Torraf hefyd holl gyrn y / rhai an/nuwiol :
a chyrn y rhai / cyfiawn / a ddyr/chefir.

Currently Selected:

Salm 75: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salm 75