Salm 73
73
Salm Asaff.
1Yn ddiau da yw / Duw i / Israel :
sef i’r / rhai / glân o / galon.
2Minnau braidd na / lithrodd · fy / nhraed :
prin na / thripiodd / fy ngher/ddediad.
3Canys cenfigennais / wrth y · rhai / ynfyd :
pan welais / lwyddiant · y / rhai an/nuwiol.
4Canys nid oes rhwymau / yn eu · mar/wolaeth :
a’u / cryfder / sydd / heini.
5Nid ydynt mewn blinder fel / dynion / eraill :
ac ni ddialeddir arnynt hwy / gyda / dynion / eraill.
6Am hynny y cadwynodd / balchder / hwynt :
ac y gwisg trawster am/danynt / fel di/lledyn.
7Eu llygaid a saif / allan · gan / fraster :
aethant dros / feddwl / calon · o / gyfoeth.
8Y maent wedi llygru * yn chwedleua yn ddryg/ionus · am / drawster :
yn dy/we/dyd yn / uchel.
9Gosodasant eu genau yn / erbyn · y / nefoedd :
a’u / tafod · a / gerdd · trwy y / ddaear.
10Am hynny y dychwel ei / bobl · ef / yma :
ac y gwesgir iddynt / ddwfr / ffiol / lawn.
† 11Dywedant hefyd * Pa fodd y / gŵyr / Duw? :
a oes gwy/bodaeth / gan y · Go/ruchaf?
12Wele dyma y rhai annuwiol * a’r rhai sydd lwydd/iannus · yn y / byd :
ac a / aml/hasant / olud.
13Diau mai yn ofer y glan/heais · fy / nghalon :
ac y golchais fy / nwylo · mewn / dini/weidrwydd.
14Canys ar hyd y / dydd · y’m / maeddwyd :
fy / ngherydd · a / ddeuai · bob / bore.
15Os dywedwn, My/negaf · fel / hyn :
wele â chenhedlaeth dy blant / di y / gwnawn / gam.
16Pan amcenais / wybod / hyn :
blin oedd / hynny · yn fy / ngolwg / i.
17Hyd onid euthum i / gysegr / Duw :
yna y de/ellais · eu / diwedd / hwynt.
18Diau osod ohonot hwynt / mewn llith/rigfa :
a chwympo o/honot / hwynt i / ddinistr.
19Mor ddisymwth yr aethant yn / anghy/fannedd :
pallasant / a dar/fuant · gan / ofn.
† 20Fel breuddwyd / wrth ddi/huno un :
felly O Arglwydd pan ddeffroech * y dir/mygi · eu / gwedd / hwynt.
21Fel hyn y go/fidiodd · fy / nghalon :
ac y’m / pigwyd / yn fy · a/rennau.
22Mor ynfyd oeddwn / ac heb / wybod :
anifail / oeddwn · o’th / flaen / di.
23Eto yr ydwyf yn wastad / gyda / thi :
ymaflaist / yn fy / llaw / ddeau.
24Â’th gyngor / y’m har/weini :
ac wedi hynny y’m cy/meri / i o/goniant.
25Pwy sydd gennyf fi yn y nefoedd / ond ty/di? :
ac ni ewyllysiais ar y ddaear / neb / gyda · thy/di.
26Pallodd fy / nghnawd a’m / calon :
ond nerth fy nghalon a’m / rhan yw / Duw · yn dra/gywydd.
27Canys wele difethir y rhai a bell/hânt · oddi / wrthyt,
torraist ymaith bob un a bu/teinio / oddi / wrthyt.
28Minnau * nesáu at Dduw sydd / dda i / mi :
yn yr Arglwydd Dduw y gosodais fy ngobaith * i / draethu · dy / holl weith/redoedd.
Currently Selected:
Salm 73: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984