YouVersion Logo
Search Icon

Salm 56

56
I’r Pencerdd ar Jonath-elem-rechocim, Michtam Dafydd, pan ddaliodd y Philistiaid ef yn Gath.
1Trugarha wrthyf O Dduw canys / dyn a’m / llyncai :
beunydd gan / ymladd / y’m gor/thryma.
2Beunydd y’m / llyncai · fy nge/lynion :
canys llawer sydd yn rhyfela i’m / herbyn · O / Dduw Go-/ruchaf.
3Y / dydd yr / ofnwyf :
mi a ymddir/iedaf / ynot / ti.
4Yn Nuw y clodforaf ei air * yn / Nuw · y go/beithiaf :
nid ofnaf beth a / wnêl / cnawd i / mi.
5Beunydd y camgy/merant · fy / ngeiriau :
eu holl feddyliau / sydd i’m / herbyn · er / drwg.
6Hwy a ym/gasglant, · a / lechant :
ac a wyliant fy nghamre pan ddis/gwyliant / am fy / enaid.
7A ddihangant hwy / trwy an/wiredd? :
disgyn y bobloedd hyn O / Dduw / yn dy · lid/iowgrwydd.
8Ti a gyfrifaist fy symudiadau * dod fy / nagrau · yn dy / gostrel :
onid / ydynt / yn dy / lyfr di?
9Y dydd y llefwyf arnat * yna y dychwelir fy ngelynion / yn eu / gwrthol :
hyn a wn / am fod / Duw / gyda mi.
10Yn Nuw y mol/iannaf · ei / air :
yn yr / Arglwydd · y mol/iannaf · ei / air,
11Yn Nuw yr / ymddir/iedais :
nid ofnaf beth a / wnêl / dyn i / mi.
12Arnaf fi O Dduw y mae dy / addu/nedau :
talaf / i / ti / foliant.
13Canys gwaredaist fy / enaid · rhag / angau :
oni waredi fy nhraed rhag syrthio * fel y rhodiwyf gerbron Duw yng ngo/leuni · y / rhai / byw?

Currently Selected:

Salm 56: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in