Salm 57
57
I’r Pencerdd, Al-taschith, Michtam Dafydd, pan ffodd rhag Saul i’r ogof.
1Trugarha wrthyf O Dduw trugarha wrthyf * canys ynot y go/beithiodd · fy / enaid :
ie yng nghysgod dy adenydd y gobeithiaf * hyd onid / êl yr / aflwydd · hwn / heibio.
2Galwaf ar / Dduw Go/ruchaf :
ar Dduw a / gwbl/ha â / mi.
3Efe a enfyn o’r nefoedd * ac a’m gwared oddi wrth warthrudd yr / hwn a’m / llyncai :
denfyn Duw ei dru/garedd / a’i wir/ionedd.
4Fy enaid sydd ymysg llewod * gorwedd yr wyf ymysg / dynion / poethion :
sef meibion dynion * y rhai y mae eu dannedd yn waywffyn a saethau * a’u / tafod · yn / gleddyf / llym.
† 5Ymddyrcha Dduw / uwch y / nefoedd :
a bydded dy ogoniant / ar yr / holl / ddaear.
6Darparasant rwyd i’m traed, / crymwyd · fy / enaid :
cloddiasant bydew o’m blaen * syrth/iasant / yn ei / ganol.
7Parod yw fy nghalon O Dduw * parod / yw fy / nghalon :
canaf / a chan/mo/laf.
8Deffro, fy ngogoniant * deffro / nabl · a / thelyn :
deff/roaf / yn / fore.
9Clodforaf di Arglwydd y/mysg y / bobloedd :
canmolaf / di y/mysg y · cen/hedloedd.
10Canys mawr yw dy drugaredd / hyd y / nefoedd :
a’th wir/ionedd / hyd y · cy/mylau.
11Ymddyrcha, Dduw / uwch y / nefoedd :
a bydded dy o/goniant · ar yr / holl / ddaear.
Currently Selected:
Salm 57: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984