YouVersion Logo
Search Icon

Salm 55

55
I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd.
1Gwrando fy / ngweddi · O / Dduw :
ac nac ym/guddia / rhag fy · nei/syfiad.
2Gwrando arnaf ac er/glyw / fi :
cwynfan yr ydwyf / yn fy / ngweddi · a / thuchan,
3Gan lais y gelyn * gan orthrymder / yr an/nuwiol :
oherwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf * ac / yn fy · ngha/sáu yn / llidiog.
4Fy nghalon a o/fidia · o’m / mewn :
ac ofn / angau · a / syrthiodd / arnaf.
5Ofn ac arswyd a / ddaeth / arnaf :
a / dychryn / a’m gor/chuddiodd.
6A dywedais * O na bai i mi a/denydd · fel co/lomen :
yna yr ehedwn / ymaith / ac y · gor/ffwyswn.
7Wele / crwydrwn · ym/hell :
ac ar/hoswn / yn yr · an/ialwch.
8Bry/siwn i / ddianc :
rhag y / gwynt ys/tormus · a’r / dymestl.
9Dinistria O Arglwydd a gwa/han · eu ta/fodau :
canys gwelais drawster a / chynnen / yn y / ddinas.
10Dydd a nos yr amgylchant hi / ar ei / muriau :
ac y mae anwiredd a / blinder / yn ei / chanol hi.
11Anwireddau sydd / yn ei / chanol hi :
ac ni chilia twyll a / dichell / o’i he/olydd hi.
12Canys nid gelyn a’m difenwodd * yna y di/odde/faswn :
nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i’m herbyn * yna mi a ymgudd/iaswn / rhagddo / ef :
13Eithr tydi / ddyn fy / nghydradd :
fy / fforddwr / a’m cyd/nabod,
14Y rhai oedd felys gennym / gyd · gyfri/nachu :
ac a rodiasom i / dŷ / Dduw yng/hyd.
[15Rhuthred marwolaeth arnynt * a disgynnant i / uffern · yn / fyw :
canys drygioni sydd yn eu / cartref · ac / yn eu / mysg.]
16Myfi a / waeddaf · ar / Dduw :
a’r / Arglwydd · a’m / hachub / i.
17Hwyr a bore a hanner dydd y gweddïaf a / byddaf / daer :
ac efe a / glyw / fy lle/ferydd.
18Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch * oddi wrth y / rhyfel · oedd i’m / herbyn :
canys yr oedd / llawer / gyda / mi.
19Duw a glyw, ac a’u darostwng hwynt * yr hwn sydd yn / aros · er/ioed :
am nad oes gyfnewidiau iddynt * am / hynny · nid / ofnant / Dduw.
20Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd he/ddychlon · ag / ef :
efe a / dorrodd / ei gy/famod.
21Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn * a / rhyfel · yn ei / galon :
tynerach oedd ei eiriau nag olew * a / hwynt · yn gle/ddyfau / noethion.
22Bwrw dy faich ar yr Arglwydd ac e/fe a’th / gynnal di :
ni ad i’r / cyfiawn · ys/gogi / byth.
23Tithau Dduw a’u disgynni hwynt i / bydew / dinistr :
gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau * ond myfi a o/beithiaf / ynot / ti.

Currently Selected:

Salm 55: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in