YouVersion Logo
Search Icon

Salm 47

47
I’r Pencerdd, Salm i feibion Cora.
1Yr holl bobl / curwch / ddwylo :
llafargenwch i / Dduw â / llef gor/foledd.
2Canys yr Arglwydd goruchaf / sydd of/nadwy :
Brenin / mawr · ar yr / holl / ddaear.
3Efe a ddwg y / bobl / danom ni :
a’r cen/hedloedd / dan ein / traed.
4Efe a ddethol ein heti/feddiaeth · i ni :
ardderchowgrwydd Jacob yr / hwn a / hoffodd · e/fe.
5Dyrchafodd Duw â / llawen / floedd :
yr / Arglwydd · â / sain / utgorn.
6Cenwch fawl i / Dduw / cenwch :
cenwch / fawl i’n / Brenin / cenwch.
7Canys Brenin yr holl / ddaear · yw / Duw :
cenwch / fawl / yn dde/allus.
8Duw sydd yn teyrnasu / ar y · cen/hedloedd :
eistedd y mae Duw ar or/seddfainc / ei sanc/teiddrwydd.
9Pendefigion y bobl a ymgasglasant ynghyd * sef / pobl · Duw / Abraham :
canys tarianau y ddaear ydynt eiddo Duw * dirfawr / y dyr-/chafwyd / ef.

Currently Selected:

Salm 47: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in