Salm 48
48
Cân a Salm i feibion Cora.
1Mawr yw yr Arglwydd a / thra mol/iannus :
yn ninas ein Duw ni / yn ei / fynydd / sanctaidd.
2Tegwch bro * llawenydd yr holl ddaear yw / mynydd / Seion :
yn ystlysau y gogledd / dinas · y / Brenin / mawr.
3Duw yn / ei pha/lasau :
a ad/waenir · yn / amddi/ffynfa.
4Canys wele y brenhinoedd a / ym · gynu/llasant :
aethant / heib/io yng/hyd.
5Hwy a welsant * felly y / rhyfe/ddasant :
brawychasant ac / aethant / ymaith · ar / ffrwst.
6Dychryn a ddaeth / arnynt / yno :
a dolur / megis / gwraig yn / esgor.
7Â / gwynt y / dwyrain :
y / drylli / longau · y / môr.
8Megis y clywsom * felly y gwelsom yn ninas Arglwydd y lluoedd * yn ninas ein / Duw / ni :
Duw a’i sicr/ha hi / yn dra/gywydd.
9Meddyl/iasom · O / Dduw :
am dy dru/garedd · yng / nghanol · dy / deml.
10Megis y mae dy enw O Dduw * felly y mae dy fawl hyd ei/thafoedd · y / tir :
cyflawn o gyf/iawnder / yw dy · dde/heulaw.
11Llawenyched mynydd Seion * ac ymhyfryded / merched / Jwda :
o/herwydd · dy / farne · di/gaethau.
12Amgylchwch Seion ac ewch o’i / hamgylch / hi :
rhifwch / ei / thyrau / hi.
13Ystyriwch ei rhagfuriau edrychwch / ar ei · pha/lasau :
fel y mynegoch i’r / oes a / ddelo · ar / ôl.
14Canys y Duw hwn yw ein Duw ni / byth · ac yn dra/gywydd :
efe a’n / tywys / ni hyd / angau.
Currently Selected:
Salm 48: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984