Salm 46
46
I’r Pencerdd o feibion Cora, Cân ar Alamoth.
1Duw sydd noddfa a / nerth i / ni :
cymorth / hawdd ei / gael · mewn cy/fyngder.
2Am hynny nid ofnwn pe sy/mudai y / ddaear :
a phe treiglid y my/nyddoedd · i / ganol · y / môr :
3Er rhuo a ther/fysgu · o’i / ddyfroedd :
er crynu o’r mynyddoedd / gan ei / ymchwydd / ef.
4Y mae afon, a’i ffrydiau a lawenhânt / ddinas / Duw :
cysegr / preswyl/feydd · y Go/ruchaf.
5Duw sydd yn ei chanol * nid / ysgog / hi :
Duw a’i cynor/thwya · yn /fore / iawn.
6Y cenhedloedd a derfysgasant * y teyrnasoedd a / ysgo/gasant :
efe a roddes ei / lef / toddodd · y / ddaear.
† 7Y mae Arglwydd y lluoedd / gyda / ni;
y mae Duw Jacob yn / amddi/ffynfa · i / ni.
8Deuwch gwelwch weith/redoedd · yr / Arglwydd :
pa anghyfanhedd-dra a / wnaeth e/fe · ar y / ddaear.
9Gwna i ryfeloedd beidio hyd / eithaf · y / ddaear :
efe a ddryllia y bwa ac a dyr y waywffon * efe a / lysg · y cer-/bydau · â / thân.
10Peidiwch, a gwybyddwch mai my/fi sydd / Dduw :
dyrchefir fi ymysg y cenhedloedd * dyr/chefir · fi / ar y / ddaear.
11Y mae Arglwydd y lluoedd / gyda / ni :
amddiffynfa i / ni yw / Duw / Jacob.
Currently Selected:
Salm 46: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984