YouVersion Logo
Search Icon

Salm 24

24
Salm Dafydd.
1Eiddo yr Arglwydd y ddaear / a’i chyf/lawnder :
y byd ac / a bre/swylia / ynddo.
2Canys efe a’i seiliodd / ar y / moroedd :
ac a’i sicr/haodd / ar yr · a/fonydd.
3Pwy a esgyn i / fynydd · yr / Arglwydd? :
a phwy a saif yn ei / le / sanctaidd / ef?
4Y glân ei ddwylo a’r / pur ei / galon :
yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd * / ac ni / thyngodd · i / dwyllo.
5Efe a dderbyn fendith / gan yr / Arglwydd :
a chyfiawnder gan / Dduw ei / iachaw/dwriaeth.
6Dyma genhedlaeth y rhai a’i / ceisiant / ef :
y rhai a geisiant dy / wyneb / di, O / Jacob.
7O byrth, dyrchefwch eich pennau * ac ymddyrchefwch, / ddrysau · tra/gwyddol :
a Brenin y go/goniant · a / ddaw i / mewn.
8Pwy yw y Brenin / gogoniant / hwn? :
yr Arglwydd nerthol a chadarn * yr / Arglwydd / cadarn · mewn / rhyfel.
9O byrth, dyrchefwch eich pennau * ac ymddyrchefwch, / ddrysau · tra/gwyddol :
a Brenin y go/goniant · a / ddaw i / mewn.
10Pwy yw y Brenin go/goniant / hwn? : Arglwydd y lluoedd * e/fe yw / Brenin · y go/goniant.

Currently Selected:

Salm 24: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in