YouVersion Logo
Search Icon

Salm 23

23
Salm Dafydd.
1Yr Arglwydd / yw fy / Mugail :
ni / bydd / eisiau / arnaf.
2Efe a wna i mi orwedd mewn por/feydd gwelltog :
efe a’m tywys ger/llaw y / dyfroedd / tawel.
3Efe a / ddychwel · fy / enaid :
efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyf/iawnder · er / mwyn ei / enw.
4Ie pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau nid / ofnaf / niwed :
canys yr wyt ti gyda mi * dy wi/alen · a’th / ffon a’m · cy/surant.
5Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy / ngwrthwy-/nebwyr :
iraist fy mhen ag / olew; · fy / ffiol / sydd / lawn.
6Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl / ddyddiau · fy / mywyd :
a phreswyliaf yn nhŷ yr / Arglwydd / yn dra/gywydd.

Currently Selected:

Salm 23: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in