YouVersion Logo
Search Icon

Salm 25

25
Salm Dafydd.
1Atat / ti O / Arglwydd :
y dyr/cha/faf fy / enaid.
2O fy Nuw, ynot ti yr / ymddir/iedais :
na’m gwaradwydder * na orfo/ledded · fy nge/lynion / arnaf.
3Ie na waradwydder neb sydd yn disgwyl / wrthyt / ti :
gwaradwydder y / rhai a · dro/seddant · heb / achos.
4Pâr i mi wybod dy / ffyrdd O / Arglwydd :
dysg i / mi / dy / lwybrau.
5Tywys fi yn dy wir/ionedd · a / dysg fi :
canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth * wrthyt ti y dis/gwyliaf ar / hyd y / dydd.
6Cofia, Arglwydd, dy dosturiaethau a’th / druga/reddau :
canys er/ioed y /maent / hwy.
7Na chofia bechodau fy ieuenctid / na’m cam/weddau :
yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf * er / mwyn · dy dda/ioni / Arglwydd.
8Da ac uniawn / yw yr / Arglwydd :
oherwydd hynny y dysg efe becha/duriaid / yn y / ffordd.
9Y rhai llariaidd a hyffordda e/fe mewn / barn :
a’i ffordd a ddysg e/fe · i’r rhai / gosty/ngedig.
10Holl lwybrau yr Arglwydd ydynt drugaredd / a gwir/ionedd :
i’r rhai a gadwant ei gyfamod a’i / dystio/laethau / ef.
11Er mwyn dy / enw / Arglwydd :
maddau fy anwiredd / canys / mawr / yw.
12Pa ŵr yw efe sydd yn / ofni’r / Arglwydd? :
efe a’i dysg ef / yn y / ffordd · a dde/wiso.
13Ei enaid ef a erys / mewn da/ioni :
a’i had a / eti/fedda · y / ddaear.
14Dirgelwch yr Arglwydd sydd gyda’r rhai a’i / hofnant / ef :
a’i gyfamod hefyd i’w / cyfar/wyddo / hwynt.
15Fy llygaid sydd yn wastad / ar yr / Arglwydd :
canys efe a ddwg fy / nhraed / allan · o’r / rhwyd.
16Tro ataf a thrugar/ha / wrthyf :
canys / unig · a / thlawd / ydwyf.
17Gofidiau fy nghalon / a he/laethwyd :
dwg fi / allan · o’m / cyfyng/derau.
18Gwêl fy / nghystudd · a’m / helbul :
a / maddau · fy / holl be/chodau.
19Edrych ar fy ngelynion * canys / aml/hasant :
â chasineb traws / hefyd / y’m ca/sasant.
20Cadw fy enaid ac / achub / fi :
na’m gwaradwydder * canys / ymddir/iedais / ynot.
21Cadwed perffeithrwydd ac un/iondeb / fi :
canys yr / wyf yn / disgwyl / wrthyt.
22O Dduw, / gwared / Israel :
o’i / holl / gyfyng/derau.

Currently Selected:

Salm 25: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salm 25