Bible App logo
Search Icon

Salm 106

106
1Molwch yr Arglwydd * Clodforwch yr Arglwydd canys / da / yw :
oherwydd ei druga/redd · a / bery yn · dra/gywydd.
2Pwy a draetha / nerthoedd · yr / Arglwydd? :
ac a fy/nega · ei / holl / fawl ef?
3Gwyn eu byd a / gadwant / farn :
a’r hwn a wnêl gyf/iawnder / bob / amser.
4Cofia fi Arglwydd yn ôl dy ras/lonrwydd · i’th / bobl :
ymwêl â / mi â’th / iachaw/dwriaeth.
5Fel y gwelwyf ddaioni dy / etho · le/digion :
fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di * fel y gorfoleddwyf / gyda’th / eti/feddiaeth.
6Pechasom / gyda’n / tadau :
gwnaethom gamwedd, / anwi/reddus / fuom.
7Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aifft * ni chofiasant luosowgrwydd dy / druga/reddau :
eithr gwrthryfelgar fuont wrth y / môr · sef y / môr / coch.
8Eto efe a’u hachubodd hwynt er / mwyn ei / enw :
i beri ad/nabod / ei ga/dernid.
9Ac a geryddodd y môr coch fel y / sychodd · e/fe :
a thywysodd hwynt trwy’r dyfnder / megis / trwy’r an/ialwch.
10Achubodd hwynt hefyd o / law · eu di/gasog :
ac a’u gwa/redodd · o / law y / gelyn.
11A’r dyfroedd a doesant eu / gwrthwy/nebwyr :
ni a/dawyd / un o/honynt.
12Yna y credasant ei / eiriau / ef :
ca/nasant · ei / fawl / ef.
13Yn y fan yr anghofiasant ei weith/redoedd / ef :
ni ddisgwyl/iasant / am ei / gyngor ef.
14Eithr blysiasant yn ddirfawr / yn yr · an/ialwch :
a themtiasant / Dduw / yn y · di/ffeithwch.
15Ac efe a roddes eu dy/muniad / iddynt :
eithr efe a an/fonodd / gulni · i’w / henaid.
16Cenfigenasant hefyd wrth / Moses · yn y / gwersyll :
ac wrth / Aaron / sant yr / Arglwydd.
17Y ddaear a agorodd ac a / lyncodd / Dathan :
ac a orchuddiodd / gynu/lleidfa · A/biram.
18Cyneuodd tân hefyd yn eu cynu/lleidfa / hwynt :
fflam a / losgodd · y / rhai an/nuwiol.
19Llo a / wnaethant · yn / Horeb :
ac ymgry/masant · i’r / ddelw / dawdd.
20Felly y troesant / eu go/goniant :
i lun / eidion · yn / pori / glaswellt.
21Anghofiasant / Dduw · eu Ha/chubwr :
yr hwn a wnaethai bethau / mawrion / yn yr / Aifft;
22Pethau rhyfedd yn /nhir / Ham :
pethau ofnadwy / wrth y / môr / coch.
23Am hynny y dywedodd y dinistriai efe hwynt * oni buasai i Moses ei etholedig sefyll ar yr / adwy · o’i / flaen ef :
i droi ymaith ei lid/iowgrwydd · ef / rhag eu · di/nistrio.
24Diystyrasant hefyd y / tir dy/munol :
ni chre/dasant · ei / air / ef;
25Ond grwgnachasant / yn eu / pebyll :
ac ni wran/dawsant · ar / lais yr / Arglwydd.
26Yna y dyrchafodd efe ei law yn eu / herbyn / hwynt :
i’w / cwympo / yn yr · an/ialwch;
27Ac i gwympo eu had y/mysg · y cen/hedloedd :
ac i’w gwas/garu / yn y / tiroedd.
28Ymgysylltasant hefyd â / Baal / Peor :
a bwy/tasant / ebyrth · y / meirw.
29Felly y digiasant ef â’u dych/mygion · eu / hun :
ac y trawodd / pla / yn eu / mysg hwy.
30Yna y safodd Phinees ac a / iawn / farnodd :
a’r / pla / a a/taliwyd.
31A chyfrifwyd hyn iddo / yn gyf/iawnder :
o gen/hedlaeth · i gen/hedlaeth / byth.
32Llidiasant ef hefyd wrth / ddyfroedd · y / gynnen :
fel y bu / ddrwg i / Moses · o’u / plegid hwynt;
33Oherwydd cythruddo ohonynt ei / ysbryd / ef : fel y camddy/wedodd / â’i we/fusau.
34Ni ddinistr/iasant · y / bobloedd :
am y rhai y dywe/dasai · yr / Arglwydd / wrthynt;
35Eithr ymgymysgasant / â’r cen/hedloedd :
a dys/gasant · eu gweith/redoedd / hwynt;
36A gwasanaethasant eu / delwau / hwynt :
y rhai a / fu yn / fagl / iddynt.
37Aberthasant / hefyd · eu / meibion : a’u / merched / i gyth/reuliaid,
38Ac a dywalltasant waed gwirion * sef gwaed eu / meibion · a’u / merched :
y rhai a aberthasant i ddelwau Canaan * a’r / tir a · ha/logwyd · â / gwaed.
39Felly yr ymhalogasant yn eu gweith/redoedd · eu / hun :
ac y putein/iasant / gyda’u · dych/mygion.
40Am hynny y cyneuodd dig yr Arglwydd yn / erbyn · ei / bobl :
fel y ffieiddiodd e/fe ei / eti/feddiaeth.
41Ac efe a’u rhoddes hwynt yn / llaw y · cen/hedloedd :
a’u caseion a / lywod · rae/thasant / arnynt.
42Eu gelynion hefyd a’u / gorthry/masant :
a daros/tyngwyd · hwynt / dan eu / dwylo hwy.
43Llawer gwaith y gwaredodd efe hwynt * hwythau a’i digiasant
ef â’u / cyngor · eu / hun :
a hwy a wa/nychwyd / am eu · han/wiredd.
44Eto efe a edrychodd pan oedd / ing / arnynt :
pan / glywodd · eu / llefain / hwynt.
45Ac efe a gofiodd ei gy/famod · â / hwynt :
ac a edifarhaodd yn ôl lluo/sowgrwydd · ei / druga/reddau :
46Ac a wnaeth iddynt / gael tru/garedd :
gan y rhai / oll / a’u cae/thiwai.
47Achub ni O Arglwydd ein Duw * a chynnull ni o / blith · y cen/hedloedd :
i glodfori dy enw sanctaidd * ac i orfo/leddu / yn dy / foliant.
48Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel er/ioed · ac yn dra/gywydd :
a dyweded yr holl bobl Amen. * Mo/lwch yr / Arglwydd.

Currently Selected:

Salm 106: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in