Salm 105
105
1Clodforwch yr Arglwydd * gelwch / ar ei / enw :
mynegwch ei weith/redoedd ∙ y/mysg y / bobloedd.
2Cenwch iddo can/molwch / ef :
ymddiddenwch am ei / holl ∙ ryfe/ddodau / ef.
3Gorfoleddwch yn ei / enw / sanctaidd :
llawenyched calon y / rhai a / geisiant ∙ yr / Arglwydd.
4Ceisiwch yr / Arglwydd ∙ a’i / nerth :
ceisiwch ei / wyneb / ef bob / amser.
5Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a / wnaeth e/fe :
ei wyrthiau a / barne ∙ di/gaethau ∙ ei / enau;
6Chwi had / Abraham ∙ ei / was ef :
chwi feibion / Jacob ∙ ei / etho ∙ le/digion.
7Efe yw yr / Arglwydd ∙ ein / Duw ni :
ei farnedigaethau ef sydd / trwy yr / holl / ddaear.
8Cofiodd ei gy/famod / byth :
y gair a orchmynnodd efe i / fil o / gened/laethau;
9Yr hyn a amododd e/fe ag / Abraham : a’i / lw / i / Isaac;
10A’r hyn a osododd efe yn /ddeddf i / Jacob :
ac yn gy/famod · tra/gwyddol · i / Israel.
11Gan ddywedyd * I ti y rhoddaf / dir / Canaan :
rhandir / eich / eti/feddiaeth.
12Pan oeddynt y/chydig · o ri/fedi :
ie y/chydig · a di/eithriaid / ynddi :
13Pan rodient o gen/hedlaeth · i gen/hedlaeth :
o’r naill / deyrnas · at / bobl / arall :
14Ni adawodd i / neb · eu gor/thrymu :
ie ceryddodd fren/hinoedd / o’u / plegid;
† 15Gan ddywedyd * Na chyffyrddwch â’m / rhai e/neiniog :
ac na / ddrygwch / fy mhro/ffwydi.
16Galwodd hefyd am / newyn · ar y / tir :
a dinistriodd / holl gyn/haliaeth / bara.
17Anfonodd / ŵr o’u / blaen hwynt : Joseff yr / hwn a / werthwyd · yn / was.
18Cystuddiasant ei / draed ef · mewn / gefyn :
ei / enaid · a / aeth mewn / heyrn :
19Hyd yr amser y / daeth ei / air ef :
gair yr / Arglwydd · a’i / profodd / ef.
20Y brenin a anfonodd ac a’i go/llyngodd / ef :
llywodraethwr y bobl, / ac a’i · rhydd/haodd / ef.
21Gosododd ef yn / arglwydd · ar ei / dŷ :
ac yn llywydd / ar ei / holl / gyfoeth :
22I rwymo ei dywysogion ef / wrth · ei e/wyllys :
ac i ddysgu doe/thineb · i’w he/nuriaid / ef.
23Aeth Israel / hefyd · i’r / Aifft :
a Jacob a ym/deithiodd · yn / nhir / Ham.
24Ac efe a gynyddodd ei / bobl · yn / ddirfawr :
ac a’u gwnaeth yn / gryfach · na’u / gwrthwy/nebwyr.
25Trodd eu calon hwynt i ga/sáu ei / bobl ef :
i wneuthur yn ddi/chellgar / â’i / weision.
26Efe a anfonodd / Moses · ei / was :
ac Aaron yr / hwn a / ddewi/sasai.
27Hwy a ddangosasant ei arwyddion ef / yn eu / plith hwynt :
a rhyfe/ddodau · yn / nhir / Ham.
28Efe a anfonodd dywyllwch / ac a · dy/wyllodd :
ac nid anufudd/hasant / hwy ei / air ef.
29Efe a drodd eu / dyfroedd · yn / waed :
ac a / laddodd / eu / pysgod.
30Eu tir a / heigiodd / lyffaint :
yn ysta/felloedd / eu bren/hinoedd.
31Efe a ddywedodd a / daeth cy/mysgbla :
a / llau · yn eu / holl / fro hwynt.
32Efe a wnaeth eu / glaw hwynt · yn / genllysg :
ac yn / fflamau / tân · yn eu / tir.
33Trawodd hefyd eu gwinwydd / a’u ffi/gyswydd :
ac a / ddrylliodd / goed eu / gwlad hwynt.
34Efe a ddywedodd a / daeth · y lo/custiaid :
a’r / lindys / yn a/neirif;
35Y rhai a fwytasant yr holl laswellt / yn eu / tir hwynt :
ac a ddifasant / ffrwyth eu / daear / hwynt.
36Trawodd hefyd bob cyntaf-anedig / yn eu / tir hwynt :
blaenffrwyth eu / holl / nerth / hwynt.
37Ac a’u dug hwynt allan ag / arian · ac / aur :
ac heb un / llesg / yn eu / llwythau.
38Llawenychodd yr Aifft pan / aethant / allan :
canys syrthiasai eu / harswyd / arnynt / hwy.
39Efe a daenodd / gwmwl · yn / do :
a / thân · i o/leuo · liw / nos.
40Gofynasant ac efe a / ddug sofl/ieir :
ac a’u di/wallodd · â / bara / nefol.
41Efe a holltodd y graig a’r / dyfroedd · a ddy/lifodd :
cerddasant ar hyd lleoedd / sychion / yn a/fonydd.
42Canys efe a gofiodd ei / air / sanctaidd :
ac / Abra/ham ei / was.
43Ac a ddug ei bobl allan / mewn lla/wenydd :
ei ethole/digion / mewn gor/foledd.
44Ac a roddes iddynt / diroedd · y cen/hedloedd :
a meddia/nasant / lafur · y / bobloedd.
45Fel y cadwent ei / ddeddfau / ef:
ac y cynhalient ei gyfreithiau * / Mo/lwch yr / Arglwydd.
Currently Selected:
Salm 105: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984