Salm 104
104
1Fy enaid, ben/dithia · yr / Arglwydd :
O Arglwydd fy Nuw tra mawr ydwyt * / gwisgaist · o/goniant · a / harddwch.
2Yr hwn wyt yn gwisgo go/leuni · fel di/lledyn :
ac yn / taenu · y / nefoedd · fel / llen.
3Yr hwn sydd yn gosod tulathau ei ystafelloedd / yn y / dyfroedd :
yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo * ac yn rhodio / ar a/denydd · y / gwynt.
4Yr hwn sydd yn gwneuthur ei gen/hadon · yn ys/brydion :
a’i weini/dogion · yn / dân / fflamllyd.
5Yr hwn a seiliodd y ddaear / ar ei · syl/feini :
fel na sy/mudo / byth yn · dra/gywydd.
6Toaist hi â’r gorddyfnder / megis · â / gwisg :
y dyfroedd a / safent · go/ruwch · y my/nyddoedd.
7Gan dy gerydd / di y / ffoesant :
rhag sŵn dy daran y / prysu/rasant / ymaith.
8Gan y mynyddoedd / yr ym/godant :
ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnant i’r / lle a / seiliaist / iddynt.
9Gosodaist derfyn fel nad / elont / drosodd :
fel na ddych/welont · i or/chuddio · y / ddaear.
10Yr hwn a yrr y ffynhonnau / i’r dyff/rynnoedd :
y rhai a / gerddant / rhwng y / bryniau.
11Diodant holl fwyst/filod y / maes :
yr asynnod / gwylltion · a / dorrant · eu / syched.
12Adar y nefoedd a / drigant · ger/llaw iddynt :
y rhai a / leisiant · oddi / rhwng y / cangau.
13Y mae efe yn dyfrhau y bryniau o’i / ysta/felloedd :
y ddaear a ddi/gonir · o / ffrwyth · dy weith/redoedd.
14Y mae yn peri i’r gwellt dyfu i’r anifeiliaid * a llysiau i wa-/sanaeth / dyn :
fel y dyco / fara / allan · o’r / ddaear;
15A gwin yr hwn a lawenycha galon dyn * ac olew i beri i’w / wyneb · ddis/gleirio :
a bara yr hwn a / gynnal / galon / dyn.
16Prennau yr Arglwydd sydd / lawn / sugn :
cedrwydd Libanus y / rhai a / blannodd · e/fe.
17Lle y / nytha · yr / adar :
y ffy/nidwydd · yw / tŷ y ci/conia.
18Y mynyddoedd uchel sydd / noddfa · i’r / geifr :
a’r / creigiau / i’r cw/ningod.
19Efe a wnaeth y lleuad i am/serau · no/dedig :
yr haul a / edwyn / ei fach/ludiad.
20Gwnei dywyllwch a / nos / fydd :
ynddi yr ym/lusga · pob / bwystfil / coed.
21Y cenawon llewod a / ruant · am ys/glyfaeth :
ac a / geisiant · eu / bwyd gan / Dduw.
22Pan godo / haul ym/gasglant :
a gor/weddant yn eu · llo/chesau.
23Dyn a â / allan · i’w / waith :
ac i’w / orchwyl / hyd yr / hwyr.
24Mor lluosog yw dy weithredoedd O Arglwydd * gwnaethost hwynt / oll · mewn doe/thineb :
llawn yw y / ddaear / o’th / gyfoeth.
25Felly y mae y / môr mawr / llydan :
yno y mae ymlusgiaid heb rifedi * bwyst/filod / bychain · a / mawrion.
26Yno yr / â y / llongau :
yno y mae y lefiathan yr hwn a / luniaist · i / chwarae / ynddo.
27Y rhai hyn oll a ddis/gwyliant / wrthyt :
am roddi / iddynt · eu / bwyd · yn ei / bryd.
28A roddech / iddynt · a / gasglant :
agori dy law a di/wellir · hwynt / â da/ioni.
29Ti a guddi dy wyneb * hwythau / a dra/llodir :
dygi ymaith eu hanadl * a threngant / a dych/welant · i’w / llwch.
30Pan ollyngych dy ysbryd y / crëir / hwynt :
ac yr adne/wyddi / wyneb · y / ddaear.
31Gogoniant yr Arglwydd / fydd yn · dra/gywydd :
yr Arglwydd a lawe/nycha / yn ei · weith/redoedd.
32Efe a edrych ar y ddaear a / hi a / gryna :
efe a gyffwrdd â’r my/nyddoedd · a / hwy a / fygant.
33Canaf i’r Arglwydd tra / fyddwyf / fyw :
canaf i’m / Duw / tra / fyddwyf.
34Bydd melys fy my/fyrdod · am/dano :
mi a lawe/nychaf / yn yr / Arglwydd.
† 35Darfydded y pechaduriaid o’r tir * na fydded yr annuw/iolion / mwy :
fy enaid bendithia di yr Arglwydd * / Mol/wch yr / Arglwydd.
Currently Selected:
Salm 104: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984