Salm 103
103
Salm Dafydd.
1Fy enaid, ben/dithia · yr / Arglwydd :
a chwbl sydd ynof ei / enw / sanctaidd / ef.
2Fy enaid, ben/dithia · yr / Arglwydd :
ac nac anghofia ei / holl / ddoniau / ef :
3Yr hwn sydd yn maddau dy / holl · anwi/reddau :
yr hwn sydd yn ia/cháu dy / holl / lesgedd :
4Yr hwn sydd yn gwaredu dy / fywyd · o / ddistryw :
yr hwn sydd yn dy goroni â thru/garedd · ac / â thos/turi :
† 5Yr hwn sydd yn diwallu dy / enau · â da/ioni :
fel yr adnewyddir dy ieu/enctid / fel yr / eryr.
6Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyf/iawnder · a / barn :
i’r rhai / gorthry/medig / oll.
7Hysbysodd ei / ffyrdd i / Moses :
ei weith/redoedd · i / feibion / Israel.
8Trugarog a graslon / yw yr / Arglwydd :
hwyrfrydig i lid a / mawr o / druga/rowgrwydd.
9Nid byth yr ym/ryson ∙ e/fe :
ac nid byth y / ceidw ∙ e/fe ei ∙ ddi/gofaint.
† 10Nid yn ôl ein pechodau y / gwnaeth efe ∙ â / ni :
ac nid yn ôl ein hanwireddau y / talodd ∙ e/fe i / ni.
11Canys cyfuwch ag yw y nefoedd uwch/law y / ddaear :
y rhagorodd ei drugaredd ef ar y / rhai a’i / hofnant / ef.
12Cyn belled ag yw y dwyrain oddi / wrth y ∙ gor/llewin :
y pellhaodd efe ein cam/weddau / oddi / wrthym.
13Fel y tosturia / tad ∙ wrth ei / blant :
felly y tosturia yr Arglwydd wrth y / rhai a’i / hofnant / ef.
14Canys efe a edwyn ein / defnydd / ni :
cofia / mai / llwch / ydym.
15Dyddiau dyn sydd / fel glas/welltyn :
megis blodeuyn y maes / felly · y blo/deua · e/fe.
16Canys y gwynt a â drosto * ac ni bydd / mwy / o/hono :
a’i le nid edwyn / ddim o/hono · ef / mwy.
17Ond trugaredd yr Arglwydd sydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb * ar y rhai a’i / hofnant / ef :
a’i gyf/iawnder · i / blant eu / plant;
18I’r sawl a gadwant ei / gyfamod / ef :
ac a gofiant / ei orch/mynion · i’w / gwneuthur.
19Yr Arglwydd a baratôdd ei orseddfa / yn y / nefoedd :
a’i frenhiniaeth ef sydd yn llywod/raethu ∙ ar / bob / peth.
20Bendithiwch yr Arglwydd ei angylion ef / cedyrn ∙ o / nerth :
yn gwneuthur ei air ef * gan wrando ar le/ferydd ∙ ei / air / ef.
21Bendithiwch yr Arglwydd ei holl / luoedd / ef :
ei holl weision yn / gwneuthur ∙ ei e/wyllys / ef.
22Bendithiwch yr Arglwydd ei holl weithredoedd ef * ym mhob / man o’i ∙ ly/wodraeth :
fy / enaid ben/dithia ∙ yr / Arglwydd.
Currently Selected:
Salm 103: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984