Salm 102
102
Gweddi’r cystuddiedig, pan fyddo mewn blinder, ac yn tywallt ei gŵyn gerbron yr Arglwydd
1Arglwydd / clyw fy / ngweddi :
a / deled · fy / llef / atat.
2Na chudd dy wyneb oddi wrthyf yn / nydd · fy nghy/fyngder :
gostwng dy glust ataf * yn y dydd y galwyf / brysia / gwrando fi.
3Canys fy nyddiau a ddar/fuant · fel / mwg :
a’m hesgyrn / a boe/thasant · fel / aelwyd.
4Fy nghalon a drawyd ac a / wywodd · fel llys/ieuyn :
fel yr ang/hofiais / fwyta · fy / mara.
5Gan / lais fy / nhuchan :
y glynodd fy / esgyrn / wrth fy / nghnawd.
6Tebyg wyf i belican / yr ani/alwch :
ydwyf fel ty/lluan / y dif/feithwch.
7Gwyliais ac ydwyf fel a/deryn · y / to :
unig / ar / ben y / tŷ.
8Fy ngelynion a’m gwara/dwyddant / beunydd :
y rhai a ynfydant wrthyf a dy/ngasant / yn fy / erbyn.
9Canys bwyteais / ludw · fel / bara :
a chymysgais fy / niod / ag wy/lofain;
10Oherwydd dy lid di / a’th ddi/gofaint :
canys codaist fi i / fyny · a / theflaist · fi i / lawr.
11Fy nyddiau sydd fel / cysgod · yn / cilio :
a minnau / fel glas/welltyn · a / wywais.
12Tithau Arglwydd a bar/hei yn · dra/gwyddol :
a’th goffadwriaeth hyd gen/hedlaeth / a chen/hedlaeth.
13Ti a gyfodi ac a drugar/hei wrth / Seion :
canys yr amser i drugarhau wrthi, · ie yr / amser · no/dedig a / ddaeth.
14Oblegid y mae dy weision yn / hoffi · ei / meini :
ac yn tos/turio / wrth ei / llwch hi.
15Felly y cenhedloedd a ofnant / enw ∙ yr / Arglwydd :
a holl frenhinoedd y / ddaear / dy o/goniant.
16Pan adeilado yr / Arglwydd / Seion :
y gwelir / ef yn / ei o/goniant.
17Efe a edrych ar / weddi ∙ y / gwael :
ac ni ddiys/tyrodd / eu dy/muniad.
18Hyn a ysgrifennir i’r gen/hedlaeth ∙ a / ddêl :
a’r bobl a/ greir ∙ a fol/iannant ∙ yr / Arglwydd.
19Canys efe a edrychodd o u/chelder ∙ ei / gysegr :
yr Arglwydd a edrychodd o’r / nefoedd / ar y / ddaear;
20I wrando uchenaid y / carcha/rorion :
ac i rydd/hau / plant / angau;
21I fynegi enw yr / Arglwydd ∙ yn / Seion :
a’i / foliant / yn Je/rwsalem;
22Pan gasgler y / bobl ∙ yng/hyd :
a’r teyrnasoedd i / wasa/naethu ∙ yr / Arglwydd.
23Gostyngodd efe fy / nerth · ar y / ffordd :
byr/haodd / fy / nyddiau.
24Dywedais * Fy Nuw na chymer fi ymaith yng / nghanol · fy / nyddiau :
dy flynyddoedd / di · sydd yn / oes / oesoedd.
25Yn y dechreuad y / seiliaist · y / ddaear :
a’r nefoedd / ydynt / waith dy / ddwylo.
26Hwy a ddarfyddant a / thi · a bar/hei :
ie hwy oll a heneiddiant fel dilledyn * fel gwisg y newidi hwynt a / hwy / a ne/widir.
27Tithau yr / un / ydwyt :
a’th fly/nyddoedd / ni ddar/fyddant.
28Plant dy weision / a bar/hânt :
a’u had a sicr/heir / ger dy / fron di.
Currently Selected:
Salm 102: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984