Bible App logo
Search Icon

Salm 101

101
Salm Dafydd.
1Canaf am dru/garedd ∙ a / barn :
i / ti / Arglwydd ∙ y / canaf.
2Byddaf ddeallus / mewn ffordd / berffaith :
pa bryd y deui ataf? * rhodiaf mewn perffeithrwydd fy/nghalon ∙ o / fewn fy / nhŷ.
3Ni osodaf ddim anwir o / flaen fy / llygaid :
cas gennyf waith y rhai cildynnus * ni / lŷn / wrthyf / fi.
4Calon gyndyn a / gilia ∙ oddi / wrthyf :
nid adna/byddaf / ddyn dryg/ionus.
5Torraf ymaith yr hwn a enllibio ei gy/mydog ∙ yn / ddirgel :
yr uchel o olwg a’r balch ei galon ni / allaf / ei ddi/oddef.
6Fy llygaid fydd ar ffyddloniaid y tir * fel y trigont / gyda / mi :
yr hwn a rodio mewn ffordd berffaith * hwnnw a’m / gwasa-/naetha / i.
7Ni thrig o fewn fy nhŷ yr un a / wnelo / dwyll :
ni thrig yn fy ngolwg yr / un · a ddy/wedo / gelwydd.
8Yn fore y torraf ymaith holl annuw/iolion · y / tir :
i ddiwreiddio holl weithredwyr an/wiredd · o / ddinas · yr / Arglwydd.

Currently Selected:

Salm 101: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salm 101