Bible App logo
Search Icon

Salm 86

86
1Tro dy glust ataf, Arglwydd, ac / ateb / fi :
oherwydd tlawd / ac ang/henus / ydwyf.
2Arbed fy mywyd, oherwydd / teyrngar / wyf fi :
gwared dy / was · sy’n ym/ddiried / ynot.
3Ti yw fy Nuw · bydd drugarog / wrthyf · O / Arglwydd :
oherwydd arnat / ti y / gwaeddaf · trwy’r / dydd.
4Llawenha / enaid · dy / was :
oherwydd atat ti / Arglwydd · y dyr/chafaf · fy / enaid.
5Yr wyt ti, Arglwydd, yn / dda · a ma/ddeugar :
ac yn llawn trugaredd i / bawb sy’n / galw / arnat.
6Clyw, O / Arglwydd · fy / ngweddi :
a / gwrando / ar fy / ymbil.
7Yn nydd fy nghyfyngder / galwaf / arnat :
oherwydd yr / wyt ti / yn fy / ateb.
8Nid oes neb fel ti ymhlith y / duwiau · O / Arglwydd :
ac nid oes gweith/redoedd / fel dy · rai / di.
9Bydd yr holl genhedloedd a wnaethost yn dod ac yn ymgrymu o’th / flaen, O / Arglwydd :
ac yn / anrhy/deddu · dy / enw.
10Oherwydd yr wyt ti yn fawr ac yn gwneud / rhyfe/ddodau :
ti yn / unig / sydd – / Dduw.
11O Arglwydd, dysg i mi dy ffordd · imi rodio yn / dy wir/ionedd :
rho imi galon / unplyg · i / ofni · dy / enw.
12Clodforaf di â’m holl galon, O / Arglwydd · fy / Nuw :
ac anrhy/deddaf · dy / enw · hyd / byth. ‡
13Oherwydd mawr yw dy ffyddlondeb / tuag / ataf :
a gwaredaist fy / mywyd · o / Sheol / isod.
14O Dduw, cododd gwŷr trahaus yn f’erbyn · ac y mae criw didostur yn / ceisio · fy / mywyd :
ac nid ydynt yn / meddwl · am/danat / ti.
15Ond yr wyt ti, O Arglwydd, yn Dduw tru/garog · a / graslon :
araf i ddigio, a llawn / cariad / a gwir/ionedd.
16Tro ataf, a / bydd dru/garog :
rho dy nerth i’th was · a gwared / un o / hil dy / weision.
17Rho imi arwydd o’th ddaioni · a bydded i’r rhai sy’n fy nghasáu weld / a · chywi/lyddio :
am i ti, Arglwydd, fy nghynor/thwyo / a’m cy/suro.

Currently Selected:

Salm 86: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in