Salm 85
85
1O Arglwydd, buost drugarog / wrth dy / dir :
ad/feraist / lwyddiant · i / Jacob.
2Maddeuaist / gamwedd · dy / bobl :
a di/leu eu / holl – / bechod.
3Tynnaist dy holl ddi/gofaint · yn / ôl :
a throi oddi / wrth dy / lid – / mawr.
4Adfer ni eto, O Dduw ein / hiachaw/dwriaeth :
a rho heibio dy / ddicter / tuag / atom.
5A fyddi’n digio / wrthym · am / byth :
ac yn dal dig / atom · am / gened/laethau?
6Oni fyddi’n ein had/fywio / eto :
er mwyn i’th bobl / lawen/hau – / ynot?
7Dangos i ni dy ffyddlondeb / O – / Arglwydd :
a rho dy / ware/digaeth / inni.
8Bydded imi glywed yr hyn a lefara’r / Arglwydd / Dduw :
oherwydd bydd yn cyhoeddi heddwch i’w bobl ac i’w ffyddloniaid · rhag iddynt / droi dra/chefn · at ffo/lineb. ‡
9Yn wir, y mae ei waredigaeth yn agos at y rhai / sy’n ei / ofni :
fel bod gogoniant yn / aros / yn ein / tir.
10Bydd cariad a gwirionedd / yn cy/farfod :
a chyfiawnder a heddwch / yn cu/sanu · ei / gilydd.
11Bydd ffyddlondeb yn / tarddu · o’r / ddaear :
a chyfiawnder yn / edrych · i / lawr o’r / nefoedd.
12Bydd yr Arglwydd yn / rhoi dai/oni :
a’n / tir yn / rhoi ei / gnwd.
13Bydd cyfiawnder yn / mynd o’i / flaen :
a heddwch yn / dilyn yn / ôl ei / droed.
Currently Selected:
Salm 85: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009