Bible App logo
Search Icon

Salm 79

79
1O Dduw, daeth y cenhedloedd i’th / eti/feddiaeth :
a halogi dy deml sanctaidd · a gwneud Je/rwsa·lem / yn ad/feilion.
2Rhoesant gyrff dy weision yn fwyd i / adar · yr / awyr :
a chnawd dy ffydd/loniaid / i’r bwyst/filod.
3Y maent wedi tywallt gwaed fel dŵr o / amgylch · Je/rwsalem :
ac / nid oes / neb i’w / claddu.
4Aethom yn watwar / i’n cym/dogion :
yn wawd a / dirmyg · i’r / rhai o’n / cwmpas.
5Am ba hyd, Arglwydd? · A fyddi’n / ddig am / byth? :
A yw dy ei/ddigedd · i / losgi · fel / tân?
6aTywallt dy lid / ar y · cen/hedloedd :
nad / ydynt / yn · dy ad/nabod,
6bAc / ar y · teyr/nasoedd :
nad ydynt yn / galw / ar dy / enw,
7Am iddynt / ysu / Jacob :
a di/feth–/a ei / drigfan.
8Paid â dal yn ein herbyn ni ddrygioni / ein hy/nafiaid :
ond doed dy dosturi atom ar frys · oherwydd fe’n / daro/styngwyd · yn / llwyr.
9aCymorth ni, O Dduw ein / hiachaw/dwriaeth :
o/herwydd · an/rhydedd · dy / enw;
9bGwared ni, a maddau / ein pe/chodau :
er / mwyn / dy – / enw.
10aPam y caiff y cen/hedloedd / ddweud :
“Ple / mae – / eu – / Duw?”
10bDysger y cenhedloedd / yn ein / gŵydd :
beth yw dy ddialedd am waed / tywall/tedig · dy / weision.
11Doed ochneidio’r carcha/rorion · hyd / atat :
ac yn dy nerth mawr / arbed · y / rhai · oedd i / farw.
12Taro’n ôl seithwaith i’n cymdogion, a / hynny · i’r / byw :
y gwatwar a wnânt wrth dy ddi/frïo / O – / Arglwydd.
13Yna, byddwn ni, dy bobl a phraidd dy borfa · yn dy fol/iannu · am / byth :
ac yn adrodd dy foliant / dros y / cened/laethau.

Currently Selected:

Salm 79: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salm 79