Salm 78
78
1Gwrandewch fy nys/geidiaeth · fy / mhobl :
gogwyddwch eich / clust at / eiriau · fy / ngenau.
2Agoraf fy ngenau / mewn di/hareb :
a llefaraf ddam/hegion · o’r / dyddiau / gynt,
3Pethau a glywsom / ac a / wyddom :
ac a adroddodd / ein hyn/afiaid / wrthym.
4aNi chuddiwn hwy oddi wrth eu / disgy/nyddion :
ond adroddwn / wrth y · gen/hedlaeth · sy’n / dod
4bWeithredoedd gogo/neddus · yr / Arglwydd :
a’i rym, a’r / pethau · rhy/feddol · a / wnaeth.
5aFe roes ddy/letswydd · ar / Jacob :
a / gosod / cyfraith · yn / Israel,
5bA rhoi gorchymyn / i’n hyn/afiaid :
i’w / dysgu / i’w – / plant;
6Er mwyn i’r to sy’n / codi / wybod :
ac i’r plant sydd heb eu geni eto · ddod ac / adrodd / wrth eu / plant;
7Er mwyn iddynt roi eu ffydd yn Nuw · a pheidio ag anghofio gweith/redoedd / Duw :
ond / cadw / ei orch/mynion;
8aRhag iddynt fod fel / eu – / hyn/afiaid :
yn genhedlaeth / gyndyn · a / gwrthry/felgar, ‡
8bYn genhedlaeth â’i chalon heb / fod yn / gadarn :
a’i hysbryd heb / fod yn / ffyddlon · i / Dduw.
9Bu i feibion Effraim, gwŷr arfog a / saethwyr / bwa :
droi yn eu / holau / yn nydd / brwydr,
10Am iddynt beidio â chadw cy/famod / Duw :
a gwrthod / rhodio / yn ei / gyfraith; ‡
11Am iddynt anghofio / ei weith/redoedd :
a’r rhyfeddodau / a ddan/gosodd / iddynt.
12Gwnaeth bethau rhyfeddol yng ngŵydd / eu hyn/afiaid :
yng ngwlad yr / Aifft yn / nhir – / Soan;
13Rhannodd y môr a’u / dwyn / trwyddo :
a gwneud i’r / dŵr – / sefyll · fel / argae.
14Arweiniodd hwy â / chwmwl · y / dydd :
a thrwy’r / nos â / thân – / disglair.
15Holltodd greigiau / yn yr · an/ialwch :
a gwneud iddynt / yfed · o’r / dyfroedd · di-/baid;
16Dygodd ffrydiau / allan · o / graig :
a pheri i ddŵr / lifo / fel a/fonydd.
17Ond yr oeddent yn dal i bechu / yn ei / erbyn :
ac i herio’r Go/ruchaf / yn yr · an/ialwch,
18A rhoi prawf ar Dduw yn / eu ca/lonnau :
trwy ofyn / bwyd · yn / ôl eu / blys.
19Bu iddynt lefaru yn erbyn / Duw a / dweud :
“A all Duw arlwyo / bwrdd yn / yr an/ialwch?
20aY mae’n wir iddo daro’r graig ac i / ddŵr bis/tyllio :
ac / i a/fonydd / lifo,
20bOnd a yw’n medru rhoi / bara / hefyd :
ac yn medru para/toi – / cig i’w / bobl?”
21Felly, pan glywodd yr / Arglwydd · hyn / digiodd :
cyneuwyd tân yn erbyn Jacob · a chododd / llid yn / erbyn / Israel,
22Am nad oeddent yn / credu · yn / Nuw :
nac yn ymddiried / yn ei / ware/digaeth.
23Yna, rhoes orchymyn i’r ffur/fafen / uchod :
ac a/gorodd / ddrysau’r / nefoedd;
24Glawiodd arnynt / fanna · i’w / fwyta :
a rhoi / iddynt / ŷd y / nefoedd;
25Yr oedd pobl yn bwyta / bara · ang/ylion :
a rhoes / iddynt / fwyd · mewn / llawnder.
26Gwnaeth i ddwyreinwynt chwythu / yn y / nefoedd :
ac â’i nerth / dygodd / allan · dde/heuwynt;
27Glawiodd arnynt / gig fel / llwch :
ac adar hedegog fel / tywod · ar / lan y / môr;
28Parodd iddynt ddisgyn yng / nghanol · eu / gwersyll :
o / gwmpas · eu / pebyll · ym / mhobman.
29Bwytasant hwythau a / chawsant / ddigon :
oherwydd / rhoes · iddynt / eu dy/muniad.
30Ond cyn iddynt ddi/wallu · eu / chwant :
a’r / bwyd · yn / dal · yn eu / genau, ‡
31Cododd dig Duw / yn eu / herbyn :
a lladdodd y rhai mwyaf graenus ohonynt · a darostwng / rhai de/wisol / Israel.
32Er hyn, yr oeddent yn / dal i / bechu :
ac nid oeddent yn credu / yn ei / ryfe/ddodau.
33Felly gwnaeth i’w hoes ddarfod / ar am/rantiad :
a’u bly/ny–/ddoedd mewn / dychryn.
34Pan oedd yn eu taro, yr oeddent / yn ei / geisio :
yr oeddent yn edifarhau / ac yn / chwilio · am / Dduw.
35Yr oeddent yn cofio mai Duw / oedd eu / craig :
ac mai’r Duw Go/ruchaf / oedd · eu gwa/redydd.
36Ond yr oeddent yn rha/grithio · â’u / genau :
ac yn dweud / celwydd / â’u ta/fodau;
37Nid oedd eu calon yn / glynu / wrtho :
ac nid oeddent yn / ffyddlon / i’w gy/famod.
38aEto, bu ef yn drugarog, ma/ddeuodd · eu / trosedd :
ac / ni ddis/trywiodd / hwy;
38bDro ar ôl tro a/taliodd · ei / ddig :
a / chadw ei / lid rhag / codi.
39Cofiodd mai / cnawd – / oeddent :
gwynt sy’n mynd / heibio / heb ddy/chwelyd.
40Mor aml y bu iddynt wrthryfela yn ei erbyn / yn · yr an/ialwch :
a pheri gofid / iddo / yn · y di/ffeithwch!
41Dro ar ôl tro rhoesant / brawf ar / Dduw :
a / blino / Sanct – / Israel.
42Nid oeddent yn / cofio · ei / rym :
y dydd y gwa/redodd · hwy / rhag y / gelyn,
43Pan roes ei arwyddion / yn yr / Aifft :
a’i ryfe/ddodau · ym / meysydd / Soan.
44Fe drodd eu ha/fonydd · yn / waed :
ac ni / allent / yfed · o’u / ffrydiau.
45Anfonodd bryfetach arnynt a’r / rheini’n · eu / hysu :
a / llyffaint · a / oedd · yn eu / difa.
46Rhoes eu / cnwd i’r / lindys :
a / ffrwyth eu / llafur · i’r / locust.
47Dinistriodd eu / gwinwydd · â / chenllysg :
a’u syca/morwydd / â gla/wogydd.
48Rhoes eu / gwartheg · i’r / haint :
a’u di/adell / i’r – / plâu.
49Anfonodd ei lid mawr arnynt · a hefyd ddicter, cyn/ddaredd · a / gofid :
cwmni / o ne/geswyr / gwae,
50A rhoes ryddid / i’w lid/iowgrwydd :
nid arbedodd hwy rhag marwolaeth · ond / rhoi eu / bywyd · i’r / haint.
51Trawodd holl rai cyntafa/nedig · yr / Aifft :
blaenffrwyth eu / nerth ym / mhebyll / Ham.
52Yna dygodd allan ei / bobl · fel / defaid :
a’u / harwain fel / praidd · trwy’r an/ialwch;
53Arweiniodd hwy’n ddiogel heb fod / arnynt / ofn :
ond gor/chuddiodd · y / môr · eu ge/lynion.
54Dygodd hwy / i’w dir / sanctaidd :
i’r mynydd a / goncrodd / â’i dde/heulaw. ‡
55Gyrrodd allan gen/hedloedd · o’u / blaenau :
rhannodd eu tir yn etifeddiaeth · a gwneud i lwythau / Israel / fyw · yn eu / pebyll.
56Eto, profasant y Duw Goruchaf a gwrthryfela / yn ei / erbyn :
ac nid oeddent yn / cadw / ei o/fynion.
57Troesant a mynd yn fradwrus fel / eu hy/nafiaid :
yr oeddent mor dwy/llodrus · â / bwa / llac.
58Digiasant ef â’u / huchel/feydd :
a’i wneud yn eiddi/geddus / â’u hei/lunod.
59Pan glywodd / Duw fe / ddigiodd :
a / gwrthod / Israel · yn / llwyr;
60Gadawodd ei / drigfan · yn / Seilo :
y babell lle’r oedd yn / byw y/mysg – / pobl;
61Gadawodd i’w gadernid / fynd i / gaethglud :
a’i o/goniant · i / ddwylo · ge/lynion;
62Rhoes ei / bobl i’r / cleddyf :
a thywallt ei lid / ar ei / eti/feddiaeth.
63Ysodd tân eu / gwŷr – / ifainc :
ac nid oedd gân bri/odas / i’w mo/rynion;
64Syrthiodd eu ho/ffeiriaid · trwy’r / cleddyf :
ac ni / allai · eu / gweddwon · a/laru.
65Yna, cododd yr Arglwydd / fel o / gwsg :
fel rhyfelwr yn / cael · ei sym/bylu · gan / win. ‡
66Trawodd ei elynion / yn eu / holau :
a dwyn / arnynt / warth tra/gwyddol.
67Gwrthododd / babell / Joseff :
ac ni dde/wisodd / lwyth / Effraim;
68Ond dewisodd / lwyth / Jwda :
a Mynydd / Seion · y / mae’n ei / garu.
69Cododd ei gysegr cyn / uched · â’r / nefoedd :
a’i sylfeini / fel y / ddaear · am / byth.
70Dewisodd Ddafydd yn / was – / iddo :
a’i gymryd / o’r cor/lannau / defaid;
71O fod yn gofalu am y mamogiaid / daeth ag / ef :
i fugeilio’i bobl Jacob · ac / Israel ei / eti/feddiaeth.
72Bugeiliodd hwy â / chalon / gywir :
a’u / harwain â / llaw dde/heuig.
Currently Selected:
Salm 78: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009