Bible App logo
Search Icon

Salm 73

73
1Yn sicr, da yw / Duw i’r / uniawn :
a’r Arglwydd / i’r rhai / pur o / galon.
2Yr oedd fy nhraed / bron â / baglu :
a bu ond y / dim i’m / gwadnau / lithro,
3Am fy mod yn cenfigennu / wrth y · tra/haus :
ac yn eiddigeddus o / lwyddiant / y dryg/ionus.
4Oherwydd nid oes ganddynt / hwy o/fidiau :
y mae eu / cyrff yn / iach a / graenus.
5Nid ydynt hwy mewn helynt / fel pobl / eraill :
ac nid ydynt hwy’n / cael · eu poe/nydio · fel / eraill.
6Am hynny, y mae balchder yn gadwyn / am eu / gyddfau :
a / thrais yn / wisg am/danynt.
7Y mae eu llygaid yn dis/gleirio · o / fraster :
a’u calonnau’n gor/lifo / o ffo/lineb.
8Y maent yn gwawdio ac yn siarad / yn ddi/chellgar :
yn / sôn yn · ffroe/nuchel · am / ormes.
9Gosodant eu genau yn / erbyn · y / nefoedd :
ac y mae eu tafod / yn tram/wyo’r / ddaear.
10Am hynny, y mae’r bobl / yn troi / atynt :
ac ni chânt / unrhyw / fai – / ynddynt.
11Dywedant, “Sut y / mae Duw’n / gwybod? :
A oes gwy/bodaeth / gan y · Go/ruchaf?”
12Edrych, dyma hwy y / rhai dryg/ionus :
bob amser mewn esmwythyd / ac yn / casglu / cyfoeth.
13Yn gwbl ofer y cedwais fy / nghalon · yn / lân :
a golchi fy nwylo / am fy / mod yn · ddi/euog;
14Ar hyd y dydd yr wyf wedi / fy mhoe/nydio :
ac fe’m / cosbir / bob – / bore.
15Pe buaswn wedi dweud, “Fel / hyn y · sia/radaf ” :
buaswn wedi bra/dychu · cen/hedlaeth · dy / blant.
16Ond pan geisiais / ddeall / hyn :
yr oedd / yn rhy / anodd · i / mi,
17Nes imi fynd i / gysegr / Duw :
yno y / gwe–/lais eu / diwedd.
18Yn sicr, yr wyt yn eu gosod ar / fannau / llithrig :
ac yn / gwneud · iddynt / syrthio · i / ddistryw.
19Fe ânt i ddinistr / ar am/rantiad :
fe’u cipir yn / llwyr gan / ddychryn/feydd.
20Fel breuddwyd ar ôl ymysgwyd, y maent / wedi / mynd :
wrth ddeffro fe’u / diys/tyrir · fel / hunllef.
21Pan oedd fy / nghalon · yn / chwerw :
a’m coluddion / wedi / eu try/wanu,
22Yr oeddwn yn / ddwl a · di/ddeall :
ac yn ymddwyn fel a/nifail / tuag / atat.
23Er hynny, yr wyf gyda / thi bob / amser :
yr wyt yn / cydio · yn / fy ne/heulaw.
24Yr wyt yn fy / arwain · â’th / gyngor :
ac yna’n fy / nerbyn / mewn go/goniant.
25Pwy sydd gennyf yn y / nefoedd · ond / ti :
ac nid wyf yn dymuno / ond ty/di · ar y / ddaear.
26Er i’m calon a’m / cnawd – / ballu :
eto y mae Duw yn gryfder i’m calon ac yn / rhan i/mi am / byth.
27Yn wir, fe ddifethir y rhai sy’n / bell · oddi / wrthyt :
a byddi’n dinistrio’r / rhai · sy’n an/ffyddlon · i / ti.
28Ond da i mi yw bod yn / agos · at / Dduw :
yr wyf wedi gwneud yr Arglwydd Dduw yn gysgod i mi · er mwyn imi fy/negi · dy / ryfe/ddodau.

Currently Selected:

Salm 73: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salm 73