Bible App logo
Search Icon

Salm 72

72
1O Dduw, rho dy farne/digaeth · i’r / brenin :
a’th gyf/iawnder · i / fab y / brenin.
2Bydded iddo farnu dy / bobl yn / gyfiawn :
a’th / rai ang/henus yn / gywir.
3Doed y mynyddoedd â / heddwch · i’r / bobl :
a’r / bryniau / â chyf/iawnder.
4Bydded iddo amddiffyn achos / tlodion · y / bobl :
a gwaredu’r rhai anghenus, a / dryllio’r / gor–/thrymwr.
5Bydded iddo fyw tra bo haul a chy/hyd â’r / lleuad :
o gen/hedlaeth / i gen/hedlaeth.
6Bydded fel glaw yn / disgyn · ar / gnwd :
ac fel cawodydd / yn dyfr/hau’r – / ddaear.
7Bydded cyfiawnder yn llwyddo / yn ei / ddyddiau :
a heddwch yn / ffynnu / tra bo / lleuad.
8Bydded iddo lywodraethu o / fôr i / fôr :
ac o’r Ewffrates / hyd der/fynau’r / ddaear.
9Bydded i’w wrthwynebwyr / blygu · o’i / flaen :
ac i’w e/lynion / lyfu’r / llwch.
10Bydded i frenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd ddod ag an/rhegion / iddo :
ac i frenhinoedd Sheba a / Seba · gy/flwyno · eu / teyrnged. ‡
11Bydded i’r holl frenhinoedd y/mostwng · o’i / flaen :
ac i’r holl gen/hedloedd · ei / wasa/naethu.
12Oherwydd y mae’n gwaredu’r ang/henus · pan / lefa :
a’r tlawd pan / yw heb / gynorth/wywr.
13Y mae’n tosturio wrth y / gwan a’r · ang/henus :
ac yn gwa/redu / bywyd · y / tlodion.
14Y mae’n achub eu bywyd rhag / trais a / gorthrwm :
ac y mae eu gwaed yn / werthfawr / yn ei / olwg.
15Hir oes fo iddo · a rhodder iddo / aur o / Sheba :
aed gweddi i fyny ar ei ran yn wastad · a chaffed ei fen/dithio / bob – / amser.
16aBydded digonedd o ŷd / yn y / wlad :
yn tyfu / hyd at / bennau’r · my/nyddoedd;
16bA bydded ei gnwd yn cy/nyddu · fel / Lebanon :
a’i / rawn fel / gwellt y / maes.
17aBydded ei enw’n / aros · hyd / byth :
ac yn / para · cy/hyd â’r / haul;
17bA’r holl genhedloedd yn cael / bendith / ynddo :
ac yn ei / alw’n / fendi/gedig.
18Bendigedig fyddo’r / Arglwydd · Duw / Israel :
ef yn unig / sy’n gwneud / rhyfe/ddodau.
19Bendigedig fyddo’i enw gogo/neddus · hyd / byth :
a bydded yr holl ddaear yn llawn o’i ogoniant · / Amen / ac A/men.

Currently Selected:

Salm 72: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in