Bible App logo
Search Icon

Salm 69

69
1Gwareda / fi, O / Dduw :
oherwydd cododd y / dyfroedd / at fy / ngwddf.
2aYr wyf yn suddo / mewn llaid / dwfn :
a heb / le i / sefyll / arno;
2bYr wyf wedi mynd i / ddyfroedd / dyfnion :
ac y mae’r llifogydd / yn fy / sgubo / ymaith.
3Yr wyf wedi diffygio’n gweiddi, a’m / gwddw’n / sych :
y mae fy llygaid yn pylu wrth / ddisgwyl / am fy / Nuw.
4aMwy niferus na / gwallt fy / mhen :
yw’r rhai sy’n / fy ngha/sáu heb / achos;
4bLluosocach na’m hesgyrn yw fy nge/lynion · twy/llodrus :
Sut y dych/welaf · yr / hyn · nas cy/merais?
5O Dduw, gwyddost ti / fy ffo/lineb :
ac nid yw fy nhroseddau’n gudd/iedig / oddi / wrthyt.
6aNa fydded i’r rhai sy’n gobeithio ynot gael eu cywi/lyddio · o’m / plegid :
O / Arglwydd / Dduw y / Lluoedd,
6bNac i’r rhai sy’n dy geisio gael eu gwara/dwyddo · o’m / hachos :
O / Dduw – / Isra/el.
7Oherwydd er dy fwyn di y / dygais / warth :
ac y mae fy wyneb wedi ei or/chuddio / â chy/wilydd.
8Euthum yn ddi/eithryn · i’m / brodyr :
ac yn / estron · i / blant fy / mam.
9Y mae sêl dy dŷ di / wedi · fy / ysu :
a daeth gwaradwydd y rhai sy’n dy wara/dwyddo · di / arnaf / finnau.
10Pan wylaf / wrth ym/prydio :
fe’i hystyrir / yn war/adwydd / i mi;
11Pan wisgaf / sachliain · am/danaf :
fe’m gwneir / yn ddi/hareb / iddynt. ‡
12Y mae’r rhai sy’n eistedd wrth y porth yn / siarad · am/danaf :
ac yr wyf yn / destun · i / watwar · y / meddwon.
13aOnd daw fy ngweddi i / atat · O / Arglwydd :
ar yr amser pri/odol / O – / Dduw.
13bAteb fi yn dy / gariad / mawr :
gyda’th / ware/digaeth / sicr.
14Gwared fi o’r llaid rhag / imi / suddo :
achuber fi o’r mwd / ac o’r / dyfroedd / dyfnion.
15Na fydded i’r llifogydd fy / sgubo / ymaith :
na’r dyfnder fy llyncu · na’r pwll / gau ei / safn am/danaf.
16Ateb fi, Arglwydd, oherwydd da / yw dy / gariad :
yn dy dru/garedd / mawr, tro / ataf.
17Paid â chuddio dy wyneb oddi / wrth dy / was :
y mae’n gyfyng / arnaf / brysia · i’m / hateb.
18Tyrd yn nes ataf / i’m gwa/redu :
rhyddha fi o / achos / fy nge/lynion.
19Fe wyddost ti fy ngwaradwydd · fy ngwarth / a’m cy/wilydd :
yr wyt yn gy/farwydd · â’m / holl e/lynion.
20aY mae gwarth wedi / torri · fy / nghalon :
ac yr / wyf / mewn an/obaith;
20bDisgwyliais am dosturi, ond / heb ei / gael :
ac am rai i’m cy/suro / ond nis / cefais.
21Rhoesant wenwyn / yn fy / mwyd :
a gwneud imi yfed / finegr / at fy / syched.
22Bydded eu bwrdd eu hunain yn / rhwyd – / iddynt :
yn / fagl / i’w cy/feillion.
23Tywyller eu llygaid rhag / iddynt / weld :
a gwna i’w / cluniau / grynu’n · bar/haus.
24Tywallt dy / ddicter / arnynt :
a doed dy / lid mawr / ar eu / gwarthaf.
25Bydded eu gwersyll yn / anghy/fannedd :
heb / neb yn / byw · yn eu / pebyll,
26Oherwydd erlidiant yr un a / drewaist / ti :
a lluosogant / friwiau’r / rhai · a ar/chollaist.
27Rho iddynt gosb / ar ben / cosb :
na chyfiawn/haer hwy / gennyt / ti.
28Dileer hwy o / lyfr y · rhai / byw :
ac na / restrer · hwy / gyda’r / cyfiawn. ‡
29Yr wyf fi mewn / gofid a / phoen :
trwy dy waredigaeth · O / Dduw – / cod · fi i / fyny.
30Moliannaf enw / Duw ar / gân :
mawrygaf / ef â / diolch/garwch.
31Bydd hyn yn well gan yr / Arglwydd · nag / ych :
neu fustach / ifanc · â / chyrn a / charnau.
32Bydded i’r darostyngedig weld hyn a / llawen/hau :
chwi sy’n ceisio Duw / bydded · i’ch ca/lonnau · ad/fywio;
33Oherwydd y mae’r Arglwydd yn / gwrando’r · ang/henus :
ac nid yw’n diy/styru · ei / eiddo · sy’n / gaethion.
34Bydded i’r nefoedd a’r ddaear / ei fol/iannu :
y môr hefyd a / phopeth / byw sydd / ynddo.
35Oherwydd bydd Duw yn gwaredu Seion · ac yn ailadeiladu di/nasoedd / Jwda :
byddant yn byw yno / ac yn / ei medd/iannu, ‡
36Bydd plant ei weision yn ei / heti/feddu :
a’r rhai sy’n caru ei / enw’n / byw – / yno.

Currently Selected:

Salm 69: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in