Bible App logo
Search Icon

Salm 68

68
1Bydded i Dduw godi · ac i’w e/lynion · was/garu :
ac i’r rhai sy’n ei ga/sáu – / ffoi o’i / flaen.
2Fel y chwelir / mwg, chwâl / hwy :
fel cwyr yn toddi o flaen tân · bydded i’r drygionus / ddarfod · o / flaen – / Duw.
3Ond y mae’r cyfiawn yn / llawen/hau :
y maent yn gorfoleddu gerbron Duw · ac yn ymhy/frydu / mewn lla/wenydd.
4Canwch i Dduw / molwch · ei / enw :
paratowch ffordd i’r un sy’n marchogaeth trwy’r anialdir · yr Arglwydd yw ei enw / gorfo/leddwch · o’i / flaen.
5Tad yr amddifaid ac amddi/ffynnydd · y / gweddwon :
yw / Duw · yn ei / drigfan / sanctaidd.
6Mae Duw yn gosod yr unig mewn cartref · ac yn arwain allan garcharorion / mewn lla/wenydd :
ond y mae’r gwrthry/felwyr · yn / byw · mewn di/ffeithwch.
7O Dduw, pan aethost ti allan o / flaen dy / bobl :
a gorym/deithio · ar / draws · yr a/nialwch,
8Crynodd y ddaear a glawiodd y nefoedd o flaen Duw / Duw – / Sinai :
o flaen / Duw – / Duw – / Israel.
9Tywelltaist ddigonedd o / law, O / Dduw :
ac adfer dy etifeddiaeth / pan oedd / ar ddi/ffygio;
10Cafodd dy braidd le i / fyw – / ynddi :
ac yn dy ddaioni darperaist / i’r ang/henus, O / Dduw.
11Y mae’r Arglwydd yn / datgan · y / gair :
ac y mae llu mawr yn cy/hoeddi’r / newydd / da
12Fod brenhinoedd y byddinoedd yn / ffoi ar / frys :
y mae’r merched / gartref · yn / rhannu / ysbail,
13Er eu bod wedi aros y/mysg y · cor/lannau :
y mae adenydd colomen wedi eu gorchuddio ag arian · a’i / hesgyll / yn aur / melyn.
14Pan wasgarodd yr Hollalluog fren/hinoedd / yno :
yr oedd yn / eira · ar / Fynydd / Salmon.
15Mynydd cadarn yw / Mynydd / Basan :
mynydd o gop/aon · yw / Mynydd / Basan.
16O fynydd y copaon · pam yr edrychi’n eiddigeddus ar y mynydd lle dewisodd / Duw – / drigo :
lle bydd yr / Arglwydd · yn / trigo · am / byth?
17Yr oedd cerbydau Duw yn ugain mil · yn / filoedd · ar / filoedd :
pan ddaeth yr Arglwydd o / Sinai / mewn sanc/teiddrwydd.
18aAethost i fyny i’r uchelder gyda chaethion / ar dy / ôl :
a der/byniaist · an/rhegion · gan / bobl, ‡
18bHyd yn oed / gwrthry/felwyr :
er mwyn i’r Arglwydd / Dduw – / drigo / yno.
19Bendigedig yw’r Arglwydd · sy’n ein cario ddydd / ar ôl / dydd :
Duw / yw ein / hiachaw/dwriaeth.
20Duw sy’n gwaredu / yw ein / Duw ni :
gan yr Arglwydd Dduw y mae di/hangfa / rhag mar/wolaeth.
21Yn wir, bydd Duw’n dryllio pennau ei elynion · pob / copa / gwalltog :
pob un sy’n / rhodio / mewn eu/ogrwydd.
22Dywedodd yr Arglwydd, “Dof â hwy’n / ôl o / Basan :
dof â hwy’n ôl / o wae/lodion · y/môr,
23‡ Er mwyn iti drochi dy / droed mewn / gwaed :
ac i dafodau dy gŵn gael eu / cyfran / o’r ge/lynion.”
24Gwelir dy orym/deithiau · O / Dduw :
gorymdeithiau fy / Nuw, fy / Mrenin · i’r / cysegr,
25Y cantorion ar y blaen a’r offer/ynwyr · yn / dilyn :
a rhyngddynt fo/rynion · yn / canu / tympanau.
26Yn y gynulleidfa y maent yn ben/dithio / Duw :
a’r Arglwydd / yng nghy/nulliad / Israel.
27Yno y mae Benjamin fychan / yn eu / harwain :
a thyrfa tywysogion Jwda · tywysogion Sabulon a / thywy/sogion / Nafftali.
28O Dduw / dangos · dy / rym :
y grym, O Dduw, y buost yn / ei weith/redu / drosom.
29O achos dy deml / yn Je/rwsalem :
daw brenhinoedd / ag an/rhegion · i / ti.
30aCerydda anifeiliaid / gwyllt y / corsydd :
y gyr o deirw / gyda’u / lloi o / bobl;
30bSathra i lawr y rhai sy’n dy/heu am / arian :
gwasgara’r bobl sy’n / ymhy/frydu · mewn / rhyfel. ‡
31Bydded iddynt ddod â / phres o’r / Aifft :
brysied Ethiopia i / estyn · ei / dwylo · at / Dduw.
32Canwch i Dduw, deyr/nasoedd · y / ddaear :
rhowch / fol–/iant i’r / Arglwydd,
33I’r un sy’n marchogaeth yn y nefoedd · y nefoedd a / fu er/ioed :
Clywch! Y mae’n lle/faru / â’i lais / nerthol.
34Cydna/byddwch · nerth / Duw :
y mae ei ogoniant uwchben Israel · a’i / rym yn / y ffur/fafen. ‡
35Y mae Duw yn arswydus / yn ei / gysegr :
y mae Duw Israel yn rhoi ynni a nerth i’w bobl. Bendi/gedig / fyddo / Duw.

Currently Selected:

Salm 68: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in