Bible App logo
Search Icon

Salm 66

66
1,2Bloeddiwch mewn gorfoledd i Dduw yr / holl – / ddaear :
canwch i ogoniant ei enw · rhowch iddo / foliant / gogo/neddus.
3Dywedwch wrth Dduw · “Mor ofnadwy yw / dy weith/redoedd! :
Gan faint dy nerth ym/greinia · dy e/lynion · o’th / flaen;
4Y mae’r holl ddaear yn ym/grymu · o’th / flaen :
ac yn canu mawl i ti · yn / canu / mawl i’th / enw.”
5Dewch i weld yr hyn a / wnaeth – / Duw :
y mae’n ofnadwy yn ei weith/redoedd / tuag · at / bobl,
6Trodd y môr yn sychdir · aethant ar / droed trwy’r / afon :
yno y / llawe/nychwn / ynddo.
7Y mae ef yn llywodraethu â’i nerth am byth · a’i lygaid yn gwylio / dros y · cen/hedloedd :
na fydded i’r gwrthryfelwyr / godi / yn ei / erbyn!
8Bendithiwch ein / Duw, O / bobloedd :
a / seiniwch · ei / fawl · yn gly/wadwy.
9Ef a roes le i ni y/mysg y / byw :
ac ni a/dawodd · i’n / troed – / lithro.
10Oherwydd buost yn ein / profi · O / Dduw :
ac / yn ein / coethi · fel / arian.
11Dygaist / ni i’r / rhwyd :
rhoist / rwy–/mau am/danom,
12‡ Gadewaist i ddynion farchogaeth dros ein pennau · aethom trwy / dân a / dyfroedd :
ond / dygaist · ni / allan · i / ryddid.
13Dof i’th deml â / phoethoff/rymau :
talaf i / ti fy / addu/nedau,
14A wneuthum / â’m gwe/fusau :
ac a lefarodd fy ngenau pan / oedd yn / gyfyng / arnaf.
15Aberthaf i ti basgedigion yn / boethoff/rymau :
a hefyd hyrddod yn arogldarth · darparaf / ychen · a / bychod / geifr.
16Dewch i wrando, chwi oll sy’n / ofni / Duw :
ac adroddaf yr hyn a / wnaeth – / Duw i / mi.
17Gwaeddais / arno · â’m / genau :
ac yr oedd / moliant / ar fy / nhafod.
18Pe bawn wedi coleddu drygioni / yn fy / nghalon :
ni fuasai’r / Arglwydd / wedi / gwrando;
19Ond yn wir, gwran/dawodd / Duw :
a rhoes / sylw · i / lef fy / ngweddi.
20Bendigedig fyddo Duw am na throdd fy ngweddi / oddi / wrtho :
na’i ffydd/londeb / oddi / wrthyf.

Currently Selected:

Salm 66: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in