Bible App logo
Search Icon

Salm 65

65
1,2Mawl sy’n ddyledus i ti, O / Dduw, yn / Seion :
ac i ti, sy’n gwrando / gweddi · y / telir · a/dduned.
3Atat ti y daw pob un â’i / gyffes · o / bechod :
“Y mae ein troseddau’n drech na ni / ond yr · wyt / ti’n eu / maddau.”
4Gwyn ei fyd y sawl a ddewisi ac a / ddygi’n / agos :
iddo gael preswylio yn dy gynteddau · digoner ninnau â daioni dy / dŷ, dy / deml / sanctaidd.
5aMewn gweithredoedd ofnadwy yr atebi ni â / buddu/goliaeth :
O / Dduw ein / hiachaw/dwriaeth;
5bYnot yr ymddiried holl / gyrion · y / ddaear :
a / phell–/afoedd · y / môr;
6Gosodi’r mynyddoedd yn eu / lle â’th / nerth :
yr wyt wedi / dy wre/gysu â / chryfder;
7Yr wyt yn ta/welu · rhu’r / moroedd :
rhu eu / tonnau · a / therfysg / pobloedd.
8Y mae trigolion cyrion y byd yn ofni / dy ar/wyddion :
gwnei i diroedd bore a / hwyr / lawen/hau.
9aRwyt yn gofalu am y ddaear ac yn / ei dyfr/hau :
gwnaethost / hi’n do/reithiog / iawn;
9bY mae afon Duw’n llawn o ddŵr · darperaist / iddynt / ŷd :
fel hyn yr wyt yn / trefnu / ar ei / chyfer :
10Dyfrhau ei rhychau, gwasta/táu ei / chefnau :
ei mwydo â chawodydd / a ben/dithio’i / chnwd.
11Yr wyt yn coroni’r flwyddyn / â’th ddai/oni :
ac y mae dy / lwybrau’n · di/feru · gan / fraster.
12Y mae porfeydd yr anialdir / yn di/feru :
a’r bryniau wedi eu gwre/gysu / â lla/wenydd;
13Y mae’r dolydd wedi eu gwisgo â defaid · a’r dyffrynnoedd wedi eu gor/chuddio · ag / ŷd :
y maent yn bloeddio / ac yn / gorfo/leddu.

Currently Selected:

Salm 65: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in