Salm 53
53
1Dywed yr ynfyd yn ei galon, / “Nid oes / Duw.” :
Gwnânt weithredoedd llygredig a ffiaidd · nid oes / un a / wna ddai/oni.
2Edrychodd yr Arglwydd o’r nefoedd / ar ddyn/olryw :
i weld a oes rhywun yn gwneud yn / ddoeth · ac yn / ceisio / Duw.
3Ond y mae pawb ar gyfeiliorn, ac mor llyg/redig · â’i / gilydd :
nid oes un a wna ddai/oni / nac oes · dim / un.
4Oni ddarostyngir y gwneuthurwyr drygioni · sy’n llyncu fy mhobl fel / llyncu / bwyd :
ac sydd heb / alw / ar yr / Arglwydd?
5aYno y byddant mewn / dychryn / mawr :
dychryn / na – / fu ei / debyg.
5bY mae Duw yn gwasgaru esgyrn / yr an/nuwiol :
daw cywilydd arnynt / am i / Dduw eu / gwrthod.
6‡ O na ddôi gwaredigaeth i / Israel · o / Seion :
Pan adfer yr Arglwydd lwyddiant i’w bobl · fe lawenha Jacob, fe / orfo/ledda / Israel.
Currently Selected:
Salm 53: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009